xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 726 (Cy. 163)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed

am 3.45 p.m. ar 10 Gorffennaf 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 6.00 p.m. ar 10 Gorffennaf 2020

Yn dod i rym

11 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, dod i rym a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Gorffennaf 2020.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 11.7.2020, gweler rhl. 1(2)

Diwygiad i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020LL+C

2.—(1Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Rhan 1 o Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer “Serbia”.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 11.7.2020, gweler rhl. 1(2)

Personau sy’n gadael Serbia ar 10 Gorffennaf 2020LL+C

3.—(1At ddibenion rheoliad 7(1)(b) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, nid yw person sy’n cyrraedd Cymru wedi i’r Rheoliadau hyn ddod i rym i’w drin fel pe bai wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt yn ystod y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r person yn cyrraedd Cymru os—

(a)yw’r person yn gadael Serbia ar 10 Gorffennaf 2020, a

(b)nad yw wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth arall nad yw’n esempt yn ystod y cyfnod hwnnw o 14 o ddiwrnodau.

(2Yn y rheoliad hwn, mae i “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” yr un ystyr ag yn rheoliad 9(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 11.7.2020, gweler rhl. 1(2)

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 3.45 p.m. ar 10 Gorffennaf 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau ynysu am gyfnod o 14 o ddiwrnodau. Mae’r gofynion yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.

Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (“y rheoliadau diwygio”). Yn rhinwedd y diwygiadau hynny, nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (fel y’i mewnosodwyd gan y rheoliadau diwygio). Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i hepgor Serbia o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.