2020 Rhif 723 (Cy. 161)
Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 94 a 95(5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 20001.
Enwi, cymhwyso, cychwyn, dod i ben a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020. Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Awst 2020.
2
Mae’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliad 6 a’r rheoliad hwn, yn peidio â chael effaith ar 30 Ebrill 2021.
3
Mae rheoliad 6 a’r rheoliad hwn yn peidio â chael effaith ddwy flynedd ar ôl dod i rym.
4
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2001” yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 20012.
Cyfarfodydd a gynhelir cyn diwedd 30 Ebrill 2021
2
Mae Rheoliadau 2001 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl rheoliad 2—
Mynychu cyfarfodydd o bell2A
1
Caniateir i gyfarfod o fforwm neu bwyllgor o fforwm gael ei gynnal drwy gyfrwng unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i siarad â’i gilydd a chlywed ei gilydd (pa un a yw’r cyfarpar neu’r cyfleuster hefyd yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ai peidio).
2
Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at y ffaith bod person yn mynychu cyfarfod neu’n bresennol mewn cyfarfod yn cynnwys, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir drwy’r cyfrwng a ddisgrifir ym mharagraff (1), mynychu drwy ddefnyddio’r cyfrwng hwnnw.
3
Mae Rheoliadau 2001 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl rheoliad 7—
Darpariaethau ar gyfer penodiadau dros dro7A
1
Mae’r darpariaethau a ganlyn yn ymwneud â phenodiad a wneir yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod daw’r rheoliadau hyn i rym ac sy’n dod i ben ar ddiwedd 30 Ebrill 2021.
2
Mae rheoliad 7 wedi ei addasu fel a ganlyn.
a
Mae rheoliad 7 i’w ddarllen fel pe bai “, rhaid i awdurdod penodi” wedi ei ddileu.
b
Mae rheoliadau 7(a) i’w ddarllen fel pe bai “caiff awdurdod penodi” wedi ei ychwanegu ar y cychwyn.
c
Mae rheoliad 7(b) i’w ddarllen fel pe bai “caiff awdurdod penodi roi” wedi ei roi yn lle “rhoi”.
d
Mae rheoliad 7(c) i’w ddarllen fel pe bai “caiff awdurdod penodi wahodd” wedi ei roi yn lle “gwahodd”.
e
Mae rheoliad 7(ch) i’w ddarllen fel pe bai “rhaid i awdurdod penodi gymryd” wedi ei roi yn lle “cymryd”.
f
Mae rheoliad 7(d) i’w ddarllen fel pe bai “rhaid i awdurdod penodi” wedi ei ychwanegu ar y cychwyn.
g
Mae rheoliad 7(dd) i’w ddarllen fel pe bai “rhaid i awdurdod penodi roi” wedi ei roi yn lle “rhoi”.
3
Os nad yw awdurdod penodi yn arfer y naill neu’r llall o’r pwerau yn rheoliadau 7(a) a (b), neu’r ddau ohonynt, mae rheoliad 4(3) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “naw mis i ben sy’n dechrau gyda diwrnod cyntaf aelodaeth y person” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau “dair blynedd i ben o ddyddiad cyfarfod cyntaf y fforwm”.
4
Mae rheoliad 10(2)(c) (papurau ar gyfer cyfarfodydd) i’w ddarllen, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn diwedd 30 Ebrill 2021, fel pe bai’r geiriau “yn cael eu hanfon drwy’r post at bob aelod o’r fforwm yn y cyfeiriad hwnnw a bennir gan aelod at y diben, fel y cyflwynir hwy yn ôl y drefn bostio arferol o leiaf saith diwrnod clir cyn dyddiad cyfarfod; neu’n cael eu hanfon ar ffurf electronig at bob aelod o leiaf saith diwrnod clir cyn dyddiad cyfarfod” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “yn cael eu cyflwyno” hyd at y diwedd.
5
Mae rheoliad 12 (ethol cadeirydd a dirprwy gadeirydd) i’w ddarllen fel pe bai—
a
ym mharagraff (2), “gan ddefnyddio unrhyw weithdrefn y mae’r fforwm yn penderfynu arni” wedi ei roi yn lle “drwy bleidlais gyfrinachol”;
b
paragraffau (4) i (6) wedi eu hepgor.
6
Mae rheoliad 15 (cynnal cyfarfodydd) i’w ddarllen fel pe bai—
a
ym mharagraff (2), y geiriau “ac os yw’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd, caiff y person sy’n llywyddu, os yw eitem benodol o fusnes sydd i’w hystyried yn y cyfarfod yn ei gwneud yn briodol i’r cyhoedd gael ei wahardd pan ystyrir yr eitem fusnes honno, ddyfarnu bod y cyhoedd i’w wahardd” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “a rhaid iddynt fod yn agored i’r cyhoedd” hyd at y diwedd;
b
y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (2)—
2A
Ym mharagraffau (1) a (2), nid yw’r cyfeiriadau at y lle y cynhelir cyfarfodydd wedi eu cyfyngu i un lleoliad ffisegol.
c
ym mharagraff (10), “, neu drwy unrhyw ddull pleidleisio arall y mae’r fforwm yn penderfynu arno” wedi ei fewnosod ar ôl “drwy i’r aelodau sy’n bresennol godi llaw”;
d
y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (10)—
11
Os yw’n angenrheidiol cynnal pleidlais ar gwestiwn y dull pleidleisio y mae’r fforwm i’w ddefnyddio, mae’r person sy’n llywyddu i benderfynu ar y dull o bleidleisio ar y cwestiwn hwnnw.
Aelodau yn methu â mynychu cyfarfodydd7
Mae rheoliad 14 o Reoliadau 2001 (terfynu aelodaeth o fforymau) i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (1)—
1A
Mewn perthynas ag unrhyw aelod penodol o fforwm, nid yw’r cyfnod o 12 mis a bennir ym mharagraff (1)(e) i gynnwys y cyfnod—
a
sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 yn dod i rym (“Diwrnod Un”), a
b
sy’n dod i ben â’r diwrnod cyntaf ar ôl Diwrnod Un pan gynhelir cyfarfod o’r fforwm, neu unrhyw bwyllgor o’r fforwm.
Adroddiadau blynyddol gan awdurdodau penodi8
Mae rheoliad 16 o Reoliadau 2001 (adroddiadau blynyddol) i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (3)—
3
Rhaid i’r awdurdod penodi gyhoeddi adroddiad blynyddol a gymeradwyir ar ôl 31 Mawrth 2020 a chyn diwedd 30 Ebrill 2021 ar ei wefan.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)