RHAN 3DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018
Diwygiad i reoliad 629.
Yn rheoliad 62, yn lle Eithriad 5 rhodder—
“Eithriad 5
Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—
(a)
na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu
(b)
na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.”