RHAN 3DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20184.
Diwygiad i reoliad 195.
“(3)
Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw P yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd—
(a)
bod P neu berthynas agos i P yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog, neu
(b)
nad yw P yn gallu bod yn y Deyrnas Unedig am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.”
Diwygiad i reoliad 396.
“Eithriad 4
Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—
(a)
na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu
(b)
na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.”
Diwygiad i reoliad 447.
“Eithriad 5

Diwygiad i reoliad 548.

Diwygiad i reoliad 629.

Amnewid rheoliad 9110.
“91.
Pan fo benthyciad cynhaliaeth wedi cael ei ordalu caiff Gweinidogion Cymru adennill y gordaliad—
(a)
drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw fenthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(b)
drwy ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr cymwys ad-dalu’r gordaliad yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(c)
drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.”
Diwygiad i Atodlen 111.
“ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);”.