RHAN 2DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2017
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20172.
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20173 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.
Diwygiadau i reoliad 623.
Yn rheoliad 62—
(a)
yn lle paragraff (10) rhodder—
“(10)
Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd—
(a)
drwy dynnu i ffwrdd y gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(b)
drwy ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr ad-dalu’r gordaliad yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(c)
drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.”,
(b)
hepgorer paragraff (11), ac
(c)
hepgorer paragraff (12).