RHAN 1ENWI, CYCHWYN A CHYMHWYSO
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) 2020.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Gorffennaf 2020 ac maent yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2020.