2020 Rhif 708 (Cy. 159)
Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) 2020
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
RHAN 1ENWI, CYCHWYN A CHYMHWYSO
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Rhif 2) 2020.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Gorffennaf 2020 ac maent yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2020.
RHAN 2DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2017
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20172
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20173 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.
Diwygiadau i reoliad 623
Yn rheoliad 62—
a
yn lle paragraff (10) rhodder—
10
Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd—
a
drwy dynnu i ffwrdd y gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
b
drwy ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr ad-dalu’r gordaliad yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
c
drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.
b
hepgorer paragraff (11), ac
c
hepgorer paragraff (12).
RHAN 3DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20184
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20184 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 5 i 11.
Diwygiad i reoliad 195
Yn rheoliad 19, yn lle paragraff (3) rhodder—
3
Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw P yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd—
a
bod P neu berthynas agos i P yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog, neu
b
nad yw P yn gallu bod yn y Deyrnas Unedig am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.
Diwygiad i reoliad 396
Yn rheoliad 39, yn lle Eithriad 4 rhodder—
Eithriad 4
Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—
a
na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu
b
na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.
Diwygiad i reoliad 447
Yn rheoliad 44, yn lle Eithriad 5 rhodder—
Eithriad 5
Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—
a
na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu
b
na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.
Diwygiad i reoliad 548
Yn rheoliad 54, yn lle Eithriad 4 rhodder—
Eithriad 4
Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—
a
na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu
b
na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.
Diwygiad i reoliad 629
Yn rheoliad 62, yn lle Eithriad 5 rhodder—
Eithriad 5
Mae’r cwrs presennol yn gwrs dysgu o bell ac nid yw’r myfyriwr (“M”) yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—
a
na fo M yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs oherwydd bod M, neu berthynas agos i M, yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru, neu
b
na fo M yn gallu bod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.
Amnewid rheoliad 9110
Yn lle rheoliad 91 rhodder—
91
Pan fo benthyciad cynhaliaeth wedi cael ei ordalu caiff Gweinidogion Cymru adennill y gordaliad—
a
drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw fenthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
b
drwy ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr cymwys ad-dalu’r gordaliad yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
c
drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.
Diwygiad i Atodlen 111
Yn Atodlen 1, ym mharagraff 6(1), yn y lle priodol mewnosoder—
ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)