Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2020
Enwi a chychwyn1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 24 Chwefror 2020.
Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 20182.
(1)
(2)
“Tatws sy’n tarddu o Libanus: ffi6A.
(1)
Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o Libanus er mwyn canfod, at ddibenion Erthygl 4 o’r Penderfyniad, pa un a yw’r tatws hynny wedi eu heintio ag is-rywogaethau Clavibacter michiganensis (Spieckermann and Kotthoff) Davis et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu ffi o £70.83 mewn cysylltiad â phob lot sy’n cael ei samplu.
(2)
Ym mharagraff (1), ystyr “y Penderfyniad” yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1614 sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymiadau rhag darpariaethau penodol Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC mewn cysylltiad â thatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar a Bekaa, Libanus4.”
(3)
“ATODLEN 2Ffioedd arolygu mewnforio: cyfraddau gostyngol
Genws
Gwlad Tarddiad
Ffi (£)
Blodau wedi eu torri
Aster
Zimbabwe
32.06
Dianthus
Colombia
1.28
Ecuador
6.41
Kenya
2.14
Twrci
6.41
Rosa
Colombia
1.28
Ecuador
0.43
Ethiopia
2.14
Kenya
4.28
Tanzania
21.38
Zambia
4.28
Canghennau gyda deiliant
Phoenix
Costa Rica
17.00
Ffrwythau
Actinidia
Unrhyw drydedd wlad
2.66
Carica papaya
Unrhyw drydedd wlad
2.66
Citrus
Yr Aifft
39.83
Mecsico
26.55
Moroco
1.59
Periw
5.31
Twrci
1.59
UDA
13.28
Cydonia
Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)2.66
Fragaria
Unrhyw drydedd wlad
2.66
Malus
Yr Ariannin
18.59
Brasil
26.55
Chile
2.66
Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)
2.66
Seland Newydd
5.31
De Affrica
2.66
Mangifera
Brasil
26.55
Passiflora
Colombia
3.72
Kenya
13.28
De Affrica
26.55
Fiet-nam
13.28
Zimbabwe
39.83
Persea americana
Unrhyw drydedd wlad
2.66
Prunus
Yr Ariannin
39.83
Chile
5.31
Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)
2.66
Moroco
26.55
Twrci
18.59
Prunus ac eithrio prunus persica
De Affrica
5.31
Pyrus
Yr Ariannin
7.97
Chile
7.97
Tsieina
26.55
Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)
2.66
De Affrica
5.31
Ribes
Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)
2.66
Rubus
Unrhyw drydedd wlad
2.66
Vaccinium
Yr Ariannin
13.28
Chile
5.31
Periw
5.31
Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)
2.66
Vitis
Unrhyw drydedd wlad
2.66
Llysiau
Solanum lycopersicon
Yr Ynysoedd Dedwydd
2.66
Moroco
2.66
Solanum melongena
Twrci
7.97”
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) sy’n pennu ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas â gwasanaethau iechyd planhigion ac ardystio tatws hadyd a phlanhigion ffrwythau a deunydd lluosogi planhigion ffrwythau.
Mae rheoliad 2(2) yn mewnosod rheoliad 6A yn Rheoliadau 2018 i ddarparu ar gyfer y ffi sy’n daladwy gan fewnforiwr tatws sy’n tarddu o Libanus pan fo arolygydd yn cymryd samplau o lot tatws at ddibenion Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1614 sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymiadau rhag darpariaethau penodol Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC mewn cysylltiad â thatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar a Bekaa, Libanus (OJ Rhif L 250, 30.9.2019, t. 85).
Mae rheoliad 2(3) yn amnewid Atodlen 2 i Reoliadau 2018, sy’n nodi ffioedd cyfradd gostyngol sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad ar gyfer gwiriadau iechyd planhigion mewn cysylltiad â phlanhigion penodol a chynhyrchion planhigion penodol sy’n ddarostyngedig i lefelau is o wiriadau y cytunwyd arnynt o dan y weithdrefn y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 13a(2) a 18(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ynghylch mesurau diogelu rhag cyflwyno i’r Gymuned organebau sy’n niweidiol i blanhigion neu i gynhyrchion planhigion a rhag eu lledaenu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1). Mae’r rheoliad hwn yn rhoi effaith i’r hysbysiad diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd am y lefelau is o wiriadau iechyd planhigion sy’n gymwys i blanhigion penodol ac i gynhyrchion planhigion penodol (a gyhoeddwyd ar 19 Tachwedd 2019).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.