(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth sy’n diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/442 (Cy. 100)) (“Rheoliadau mis Ebrill 2020”).
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 9 o Reoliadau mis Ebrill 2020, gan ddatgymhwyso’r rheoliad hwnnw mewn perthynas â chyfarfodydd o fath a ddisgrifir ym mharagraff newydd (3) o’r rheoliad hwnnw. Mae hyn yn golygu bod rhaid i awdurdodau lleol gynnal y cyfarfodydd hynny o fewn y terfyn amser a osodir gan y deddfiad neu’r offeryn y mae rhaid cynnal y cyfarfod oddi tano.
Mae rheoliadau 3 i 5 yn mewnosod darpariaethau newydd yn Rhan 4 o Reoliadau mis Ebrill 2020. Mae rheoliad 3 yn darparu ar gyfer addasu adran 228 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70). O dan yr addasiad, nid yw’n ofynnol i gynghorau cymuned ddarparu bod cofnodion trafodion yn agored i’w harchwilio, ond yn lle hynny mae’n ofynnol iddynt ddarparu copïau o gofnodion ar gais.
Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer addasu adran 26(3) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23), mewn perthynas â rhoi hysbysiad am gyfarfodydd penodol o dan y Ddeddf honno.
Mae rheoliad 5 yn ychwanegu Atodlen at Reoliadau mis Ebrill 2020, ac yn gwneud diwygiadau cysylltiedig eraill. Mae’r Atodlen yn nodi addasiadau i ddeddfiadau amrywiol sy’n gysylltiedig â’r addasiadau a wneir gan Ran 4 o’r Rheoliadau hynny.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.