Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020
Enwi a dod i rym1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 12.00 p.m. ar 25 Mehefin 2020.
Diwygio Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 20202.
(1)
Mae Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“(n)
regulations 3 and 4 of the Changing of School Session Times (Wales) Regulations 2009 (S.I. 2009/572 (W. 54))”.
(3)
“School Organisation Code made by the Welsh Ministers under section 38 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (Statutory Code Document Number 011/18)
Paragraph 3.4 (consultation document)
Paragraph 3.4 has effect as if the references to “school day” include a day on which there would have been a school session but for any restriction on the attendance of pupils at the school in connection with the prevalence of coronavirus.
School Organisation Code made by the Welsh Ministers under section 38 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (Statutory Code Document Number 011/18)
Paragraph 3.5 (consultation with children and young people)
Any duty imposed on a person by paragraph 3.5 is to be treated as discharged if the person has used reasonable endeavours to discharge the duty.
School Organisation Code made by the Welsh Ministers under section 38 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (Statutory Code Document Number 011/18)
Paragraph 4.1 (manner of publication)
Paragraph 4.1 has effect as if the references to “school day” include a day on which there would have been a school session but for any restriction on the attendance of pupils at the school in connection with the prevalence of coronavirus.”
Darpariaeth drosiannol: Newid amserau sesiynau ysgolion3.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo hysbysiad perthnasol wedi dod i ben.
(2)
Mae unrhyw newid i amserau sesiynau ysgol a weithredir yn ystod y cyfnod pan fo’r hysbysiad perthnasol neu hysbysiad blaenorol yn cael effaith yn peidio â chael effaith.
(3)
Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol sicrhau bod amserau sesiynau’r ysgol yn dychwelyd i’r amserau sesiynau yr oedd yn ofynnol eu gweithredu yn union cyn i’r hysbysiad gael ei roi neu, pan mai’r hysbysiad olaf mewn cyfres o hysbysiadau o’r fath i gael effaith yn olynol heb doriad ydyw, cyn i’r unig hysbysiad blaenorol neu’r hysbysiad blaenorol cyntaf gael ei roi (yn ôl y digwydd).
(4)
(5)
Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad perthnasol” yw hysbysiad a wneir o dan baragraff 7(5)(n) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 (datgymhwyso Rheoliadau 2009) neu, yn achos cyfres o hysbysiadau o’r fath sy’n cael effaith yn olynol heb doriad, yr hysbysiad olaf yn y gyfres.
(6)
Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad blaenorol” yw hysbysiad a wneir o dan baragraff 7(5)(n) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 sy’n ffurfio rhan o gyfres o hysbysiadau o’r fath gan gynnwys yr hysbysiad perthnasol sy’n cael effaith yn olynol heb doriad.
Darpariaeth drosiannol: y Cod Trefniadaeth Ysgolion4.
(1)
(2)
Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad perthnasol” yw hysbysiad o dan baragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 sy’n addasu paragraff 3.4, 3.5 neu 4.1 o’r Cod yn y modd a ddisgrifir ym mharagraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020.
Mae paragraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 (“Deddf 2020”) yn nodi’r deddfiadau y caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad o dan baragraff 7(1)(a) o’r Atodlen honno, eu datgymhwyso am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
Mae rheoliad 2(2) yn diwygio’r rhestr ym mharagraff 7(5) i ychwanegu rheoliadau 3 a 4 o Reoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009 (O.S. 2009/572 (Cy. 54). Mae’r darpariaethau hyn yn nodi gweithdrefnau y mae rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir eu dilyn er mwyn newid amserau sesiynau ysgolion.
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol fel bod unrhyw newid i amserau sesiynau ysgolion a weithredir yn ystod y cyfnod pan fo hysbysiad yn cael effaith yn cael ei wrthdroi ar ôl i’r hysbysiad beidio â chael effaith.
Mae’r tabl ym mharagraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf 2020 yn nodi’r deddfiadau y caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad o dan baragraff 7(1)(b) o’r Atodlen honno, eu haddasu am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad ac yn nodi ym mha fodd y caniateir iddynt gael eu haddasu.
Mae rheoliad 2(3) yn diwygio’r tabl i ychwanegu cofnodion newydd ar gyfer darpariaethau’r Cod Trefniadaeth Ysgolion a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 38 a 39 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“y Cod”) sy’n ymwneud ag ymgynghori ar gynigion trefniadaeth ysgolion, sy’n nodi’r addasiadau y caniateir iddynt gael eu gwneud i’r darpariaethau hynny drwy hysbysiad o dan baragraff 7(1)(b) o Atodlen 17 i Ddeddf 2020.
Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth drosiannol i addasiad a wneir drwy hysbysiad sy’n ymwneud â’r Cod barhau i gael effaith ar ôl i’r hysbysiad ddod i ben mewn cysylltiad ag ymgynghoriad o dan y Cod sydd ar agor ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.