Search Legislation

Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Senedd Cymru o dan adran 94(4)(b) o Ddeddf y Coronafeirws 2020 (p. 7) a pharagraff 8 o Atodlen 17 iddi, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru o fewn 40 niwrnod gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir yr offeryn.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 640 (Cy. 147)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020

Gwnaed

am 10.53 a.m. ar 25 Mehefin 2020

Yn dod i rym am

am 12.00 p.m. ar 25 Mehefin 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 2.00 p.m. ar 25 Mehefin 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer eu pwerau o dan adran 92 o Ddeddf y Coronafeirws 2020 a pharagraff 8 o Atodlen 17 iddi(1).

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 12.00 p.m. ar 25 Mehefin 2020.

Diwygio Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020

2.—(1Mae Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 7(5), ar ôl paragraff (m), mewnosoder—

(n)regulations 3 and 4 of the Changing of School Session Times (Wales) Regulations 2009 (S.I. 2009/572 (W. 54)).

(3Ym mharagraff 7(6), yn y tabl, ar ôl y cofnod ar gyfer Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010(2), mewnosoder—

School Organisation Code made by the Welsh Ministers under section 38 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (Statutory Code Document Number 011/18)Paragraph 3.4 (consultation document)Paragraph 3.4 has effect as if the references to “school day” include a day on which there would have been a school session but for any restriction on the attendance of pupils at the school in connection with the prevalence of coronavirus.
School Organisation Code made by the Welsh Ministers under section 38 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (Statutory Code Document Number 011/18)Paragraph 3.5 (consultation with children and young people)Any duty imposed on a person by paragraph 3.5 is to be treated as discharged if the person has used reasonable endeavours to discharge the duty.
School Organisation Code made by the Welsh Ministers under section 38 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (Statutory Code Document Number 011/18)Paragraph 4.1 (manner of publication)Paragraph 4.1 has effect as if the references to “school day” include a day on which there would have been a school session but for any restriction on the attendance of pupils at the school in connection with the prevalence of coronavirus.

Darpariaeth drosiannol: Newid amserau sesiynau ysgolion

3.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo hysbysiad perthnasol wedi dod i ben.

(2Mae unrhyw newid i amserau sesiynau ysgol a weithredir yn ystod y cyfnod pan fo’r hysbysiad perthnasol neu hysbysiad blaenorol yn cael effaith yn peidio â chael effaith.

(3Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol sicrhau bod amserau sesiynau’r ysgol yn dychwelyd i’r amserau sesiynau yr oedd yn ofynnol eu gweithredu yn union cyn i’r hysbysiad gael ei roi neu, pan mai’r hysbysiad olaf mewn cyfres o hysbysiadau o’r fath i gael effaith yn olynol heb doriad ydyw, cyn i’r unig hysbysiad blaenorol neu’r hysbysiad blaenorol cyntaf gael ei roi (yn ôl y digwydd).

(4Nid yw paragraff (3) yn effeithio ar bwerau corff llywodraethu ysgol neu awdurdod lleol i newid amserau sesiynau ysgolion yn unol â Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009(3) (“Rheoliadau 2009”).

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad perthnasol” yw hysbysiad a wneir o dan baragraff 7(5)(n) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 (datgymhwyso Rheoliadau 2009) neu, yn achos cyfres o hysbysiadau o’r fath sy’n cael effaith yn olynol heb doriad, yr hysbysiad olaf yn y gyfres.

(6Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad blaenorol” yw hysbysiad a wneir o dan baragraff 7(5)(n) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 sy’n ffurfio rhan o gyfres o hysbysiadau o’r fath gan gynnwys yr hysbysiad perthnasol sy’n cael effaith yn olynol heb doriad.

Darpariaeth drosiannol: y Cod Trefniadaeth Ysgolion

4.—(1Pan fo ymgynghoriad neu gyfnod gwrthwynebu o dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 38 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(4) (“y Cod”) ar agor ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod a bennir mewn hysbysiad perthnasol, mae’r addasiad i’r Cod a wneir gan yr hysbysiad yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r ymgynghoriad a’r cyfnod gwrthwynebu ar ôl i’r hysbysiad ddod i ben.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad perthnasol” yw hysbysiad o dan baragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 sy’n addasu paragraff 3.4, 3.5 neu 4.1 o’r Cod yn y modd a ddisgrifir ym mharagraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

Am 10.53 a.m. ar 25 Mehefin 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae paragraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 (“Deddf 2020”) yn nodi’r deddfiadau y caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad o dan baragraff 7(1)(a) o’r Atodlen honno, eu datgymhwyso am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

Mae rheoliad 2(2) yn diwygio’r rhestr ym mharagraff 7(5) i ychwanegu rheoliadau 3 a 4 o Reoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009 (O.S. 2009/572 (Cy. 54). Mae’r darpariaethau hyn yn nodi gweithdrefnau y mae rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir eu dilyn er mwyn newid amserau sesiynau ysgolion.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol fel bod unrhyw newid i amserau sesiynau ysgolion a weithredir yn ystod y cyfnod pan fo hysbysiad yn cael effaith yn cael ei wrthdroi ar ôl i’r hysbysiad beidio â chael effaith.

Mae’r tabl ym mharagraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf 2020 yn nodi’r deddfiadau y caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad o dan baragraff 7(1)(b) o’r Atodlen honno, eu haddasu am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad ac yn nodi ym mha fodd y caniateir iddynt gael eu haddasu.

Mae rheoliad 2(3) yn diwygio’r tabl i ychwanegu cofnodion newydd ar gyfer darpariaethau’r Cod Trefniadaeth Ysgolion a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 38 a 39 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“y Cod”) sy’n ymwneud ag ymgynghori ar gynigion trefniadaeth ysgolion, sy’n nodi’r addasiadau y caniateir iddynt gael eu gwneud i’r darpariaethau hynny drwy hysbysiad o dan baragraff 7(1)(b) o Atodlen 17 i Ddeddf 2020.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth drosiannol i addasiad a wneir drwy hysbysiad sy’n ymwneud â’r Cod barhau i gael effaith ar ôl i’r hysbysiad ddod i ben mewn cysylltiad ag ymgynghoriad o dan y Cod sydd ar agor ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(4)

Dogfen Cod Statudol Rhif 011/18

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources