Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.
(2)
Deuant i rym ar 9 Gorffennaf 2020.
Diwygio Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 20102.
(1)
(2)
Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1(1A), yn lle “8 Gorffennaf 2020” rhodder “31 Rhagfyr 2020”.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau yn Neddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 ac maent yn diwygio Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2880 (Cy. 238)) (“Rheoliadau 2010”).
Mae Rheoliadau 2010, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol, yn ei gwneud yn ofynnol i werthwyr nwyddau sy’n cyflenwi bagiau siopa untro at ddiben caniatáu i’r nwyddau hynny gael eu cludo ymaith neu eu danfon, godi tâl am bob bag a gyflenwir.
Mae bagiau siopa untro a ddefnyddir i ddanfon neu gasglu nwyddau ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i esemptiad dros dro rhag y tâl. Mae cyfnod yr esemptiad dros dro wedi ei nodi ym mharagraff 1(1A) o Atodlen 1 i Reoliadau 2010. Daw’r cyfnod esemptio presennol i ben ar 8 Gorffennaf 2020.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 1 (esemptiadau) i Reoliadau 2010 drwy estyn cyfnod yr esemptiad hyd 31 Rhagfyr 2020.
Diben yr esemptiad dros dro yw lliniaru, cyhyd ag y bo modd, y risg o drosglwyddo feirws COVID-19 (coronafeirws), drwy systemau danfon a chasglu, a chynyddu effeithlonrwydd systemau danfon, drwy ddefnyddio bagiau siopa untro i gludo nwyddau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Is-adran Ansawdd yr Amgylchedd, Adran yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.