ATODLEN 3Holiaduron: disgrifiad
RHAN 8Swyddogaethau a Nodweddion Holiaduron Ar-lein
1
Bydd holiaduron ar-lein a gwefan yr Awdurdod sy’n lletya holiaduron ar-lein yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r cyfrifiad ac o ran llenwi a chyflwyno holiaduron ar-lein, gan gynnwys gwybodaeth am y canlynol—
a
dechrau holiadur ar-lein,
b
y personau y mae rhaid iddynt lenwi ffurflen y cyfrifiad,
c
aelodau o’r aelwyd yn ateb y rhannau o holiadur sy’n berthnasol iddynt hwy,
d
pryd y dylid llenwi ffurflen y cyfrifiad,
e
sut y bydd yr Awdurdod yn defnyddio ac yn diogelu gwybodaeth sy’n ymwneud â pherson rhagnodedig,
f
ble a sut y gellir dod o hyd i gymorth er mwyn llenwi holiadur ar-lein, ac
g
natur fandadol y cyfrifiad yn ei gyfanrwydd, ond natur wirfoddol cwestiynau penodol o fewn y cyfrifiad.
2
Bydd holiaduron ar-lein a gwefan yr Awdurdod sy’n lletya holiaduron ar-lein yn cynnwys swyddogaethau a nodweddion er mwyn galluogi—
a
person rhagnodedig i gael mynediad i’r holiadur ar-lein perthnasol drwy fewnbynnu cod mynediad unigryw ar-lein,
b
i god mynediad unigryw gysylltu’n awtomatig â chyfeiriad aelwyd neu sefydliad cymunedol,
c
i gyfeiriad person rhagnodedig gael ei arddangos yn awtomatig pan fo’n berthnasol mewn rhannau gwahanol o holiadur ar-lein,
d
pan fo holiadur ar-lein yn cael ei lenwi gan berson ar ran person arall yn unol â’r Rholiadau hyn, i unrhyw eiriau, llythrennau neu atalnodi gael eu haddasu’n awtomatig i sicrhau bod y cyfarwyddiadau neu’r cwestiynau yn gwneud synnwyr yn ramadegol, gan gynnwys rhoi enw’r person y mae’r holiadur ar-lein yn cael ei lenwi ar ei ran yn lle’r geiriau ‘chi’ ac ‘eich’ yn awtomatig mewn unrhyw gwestiwn,
e
i ymatebion ynghylch y berthynas rhwng un person a’r personau eraill mewn aelwyd o bump neu ragor o bersonau gael eu defnyddio er mwyn casglu perthynas y personau eraill hynny â’i gilydd, gan gynnwys, at y diben hwn, y swyddogaeth i ofyn cwestiwn yn y canol, sef “A yw unrhyw un neu ragor o’r bobl hyn yn perthyn i chi?” neu amrywiadau trydydd person ar y cwestiwn hwnnw,
f
i destun gael ei arddangos sy’n cynnwys cyfarwyddiadau neu wybodaeth sy’n ymwneud â llenwi cwestiynau penodol, neu’n ymwneud yn gyffredinol â llenwi’r holiadur ar-lein,
g
i wybodaeth gael ei arddangos o ran pam y mae cwestiwn penodol yn bwysig,
h
i gwestiynau gael eu hateb mewn trefn wahanol,
i
i ystod o opsiynau ymateb rhagbenodedig gael eu cynnig mewn perthynas â chwestiwn,
j
i ymatebion sy’n cael eu teipio gael cymorth drwy destun rhagfynegol (pan fo’n briodol),
k
i lwybr gael ei bennu drwy’r holiadur ar-lein drwy ddefnyddio cwestiynau i bennu’r llwybr hwnnw,
l
i arwydd gael ei roi nad yw cwestiwn sy’n pennu’r llwybr wedi cael ei ateb,
m
y gofyniad bod cwestiwn sy’n pennu’r llwybr yn cael ei ateb cyn y caniateir i gwestiynau pellach gael eu hateb,
n
atal atebion sy’n anghyson â’i gilydd rhag cael eu dewis mewn ymateb i gwestiwn,
o
i awgrym gael ei arddangos pan fo’n briodol i annog adolygu’r ymateb,
p
i ymateb gael ei ddiwygio cyn iddo gael ei gyflwyno, a
q
i holiadur ar-lein sydd wedi ei lenwi’n rhannol gael ei arbed a’i barhau yn nes ymlaen.