ATODLEN 3Holiaduron: disgrifiad

RHAN 2

Holiadur (ar-lein) i Unigolion

(1) Cwestiwn

(2) Opsiynau Ymateb

Pa fath o gartref yw (cyfeiriad y cyfrifiad)?

Dewisir un o’r canlynol:

Sefydliad cymunedol (er enghraifft, neuadd breswyl i fyfyrwyr, ysgol breswyl, un o ganolfannau’r lluoedd arfog, ysbyty, cartref gofal, carchar) (Os dewisir yr opsiwn ymateb hwn, gofynnir y cwestiwn isod yng ngholofn (1) sydd â (⁑).)

—Cartref preifat neu gartref teulu

Ydych chi’n ateb y cwestiynau hyn drosoch chi eich hun neu ar ran rhywun arall?

Dewisir un o’r canlynol:

—Drosof fi fy hun

—Ar ran rhywun arall

Os mai “Drosof fi fy hun” yw’r ymateb yna:

Beth yw eich enw?

Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol:

Enw cyntaf

Enw(au) canol

Cyfenw

Os mai “Ar ran rhywun arall” yw’r ymateb yna:

Beth yw enw’r unigolyn?

Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol:

Enw cyntaf

Enw(au) canol

Cyfenw

(⁑) Pa un o’r rhain sy’n eich disgrifio orau yn y sefydliad hwn?

Dewisir un o’r canlynol:

—Preswylydd (er enghraifft, myfyriwr, aelod o’r lluoedd arfog, claf, carcharor)

—Aelod o staff neu berchennog y sefydliad

—Perthynas neu bartner i’r perchennog neu i aelod o’r staff

—Aros dros dro (heb gyfeiriad arferol yn y Deyrnas Unedig)

Mae’r cwestiynau dilynol yn yr holiadur hwn yn union debyg i’r cwestiynau yn Holiadur y Cartref (ar-lein) a nodir yn y tabl yn Rhan 1 o’r Atodlen, o a chan gynnwys y cwestiwn “Beth yw eich dyddiad geni?” hyd at ond heb gynnwys y cwestiynau sydd â (‡).

Mae’r opsiynau ymateb dilynol yn yr holiadur hwn yn union debyg i’r opsiynau ymateb yn Holiadur y Cartref (ar-lein) a nodir yn y tabl yn Rhan 1 o’r Atodlen, o a chan gynnwys yr opsiwn ymateb i’r cwestiwn “Beth yw eich dyddiad geni?” hyd at ond heb gynnwys yr opsiynau ymateb i’r cwestiynau sydd â (‡).

Nid yw’r cyfarwyddyd cyfeirio sy’n dilyn yr ail opsiwn ymateb i’r cwestiwn “Yn ystod y tymor, ble ydych chi’n byw fel arfer?”, na’r cyfarwyddyd cyfeirio sy’n dilyn y cwestiwn “Ydy’r cyfeiriad hwn yn y Deyrnas Unedig?” (y mae’r ddau ohonynt yn cyfeirio ymatebwyr i’r cwestiynau sydd â (‡)) yn y tabl yn Rhan 1 o’r Atodlen hon yn gymwys yn y tabl hwn.Yn hytrach, ym mhob achos, y cyfarwyddyd cyfeirio yw:“Os caiff ei ddewis/Ar ôl y cwestiwn hwn (fel y bo’n briodol), ni ofynnir unrhyw gwestiynau pellach.”