ATODLEN 1

Rheoliadau 3(2) a 6(3)

Tabl

(1) Personau Rhagnodedig

(2) Enw fersiwn Saesneg yr holiadur

(3) Enw fersiwn Gymraeg yr holiadur

Y deiliad aelwyd neu’r cyd-ddeiliaid aelwyd, neu yn absenoldeb unrhyw berson o’r fath sy’n alluog i lenwi ffurflen, unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y deiliad aelwyd neu’r cyd-ddeiliaid aelwyd, ar bob aelwyd yng Nghymru.

Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Household Questionnaire (online)” yn Rhan 1 o Atodlen 2.

Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (ar-lein) y Cartref” yn Rhan 1 o Atodlen 2.

Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Household Questionnaire (paper)” yn Rhan 4 o Atodlen 2.

Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (papur) y Cartref” yn Rhan 4 o Atodlen 2.

Pan fo erthygl 5(11) o Orchymyn y Cyfrifiad yn gymwys, y person sy’n gyfrifol o dan yr erthygl honno am lenwi ffurflen yng Nghymru.

Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Household Continuation Questionnaire (paper)” yn Rhan 5 o Atodlen 2.

Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (papur) y Cartref (Parhad)” yn Rhan 5 o Atodlen 2.

Pob preswylydd arferol a bennir yng ngholofn (2) yng Ngrŵp B i F yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad neu unrhyw berson sy’n gweithredu ar ran y person hwnnw, yng Nghymru.

Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Individual Questionnaire (online)” yn Rhan 2 o Atodlen 2.

Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (ar-lein) i Unigolion” yn Rhan 2 o Atodlen 2.

Pob person a bennir yng ngholofn (2) o Grŵp G yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad neu unrhyw berson sy’n gweithredu ar ei ran, yng Nghymru.

Unrhyw etholwr yng Nghymru sy’n llenwi ffurflen unigolyn yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad.

Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Individual Questionnaire (paper)” yn Rhan 6 o Atodlen 2.

Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (papur) i Unigolion” yn Rhan 6 o Atodlen 2.

Y person a chanddo ofal am y tro dros unrhyw fangre neu lestr a grybwyllir yng Ngrŵp B i F yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad, yng Nghymru.

Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Communal Establishment Questionnaire (online)” yn Rhan 3 o Atodlen 2.

Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (ar-lein) i Sefydliadau Cymunedol” yn Rhan 3 o Atodlen 2.

Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Communal Establishment Questionnaire (paper)” yn Rhan 7 o Atodlen 2.

Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (papur) i Sefydliadau Cymunedol” yn Rhan 7 o Atodlen 2.