- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Rhaid i’r Awdurdod baratoi cynifer o becynnau cyfrifiad y cyfeirir atynt ym mharagraffau (3) i (5) y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad.
(2) Rhaid i gynnwys pob pecyn cyfrifiad gael ei roi mewn amlen wedi ei selio y gall unrhyw gyfeiriad wedi ei argraffu gael ei weld drwyddi.
(3) Rhaid i bob un o’r pecynnau ar-lein i aelwydydd, y pecynnau ar-lein i unigolion a’r pecynnau ar-lein i sefydliadau cymunedol gynnwys—
(a)yn eu trefn, cod mynediad unigryw ar gyfer holiadur H2(online) ac H2W(ar-lein), cod mynediad unigryw ar gyfer holiadur I2(online) ac I2W(ar-lein) a chod mynediad unigryw ar gyfer holiadur CE2(online) ac CE2W(ar-lein), a
(b)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r Awdurdod yn ystyried y gall gynorthwyo o ran llenwi a chyflwyno’r holiadur y mae’r pecyn hwnnw yn ymwneud ag ef.
(4) Rhaid i bob un o’r pecynnau papur i aelwydydd, y pecynnau papur i unigolion a’r pecynnau papur i sefydliadau cymunedol gynnwys—
(a)yn eu trefn, copi o holiadur H2(paper) ac H2W (papur), copi o holiadur I2(paper) ac I2W(papur) a chopi o holiadur CE2(paper) ac CE2W(papur),
(b)yn eu trefn, cod mynediad unigryw ar gyfer holiadur H2(online) ac H2W(ar-lein), cod mynediad unigryw ar gyfer holiadur I2(online) ac I2W(ar-lein) a chod mynediad unigryw ar gyfer holiadur CE2(online) ac CE2W(ar-lein),
(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r Awdurdod yn ystyried y gall gynorthwyo o ran llenwi a chyflwyno’r holiaduron y mae’r pecynnau hynny yn ymwneud â hwy, a
(d)amlen wedi ei thalu ymlaen llaw.
(5) Rhaid i’r pecynnau aelwyd (parhad) gynnwys—
(a)copi o holiadur HC2(paper) a chopi o holiadur HC2W(papur),
(b)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r Awdurdod yn ystyried y gall gynorthwyo o ran llenwi a chyflwyno’r holiadur, ac
(c)amlen wedi ei thalu ymlaen llaw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: