Y system olrhain holiaduron, yr offeryn rheoli gwaith maes a dyfeisiau electronig y cyfrifiad7

1

Rhaid i’r Awdurdod ddarparu system olrhain holiaduron ar gyfer rheoli’r cyfrifiad ac ar gyfer cadw cofnodion ynghylch—

a

rhifau adnabod holiaduron,

b

codau mynediad unigryw sy’n rhoi mynediad i’r fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r holiadur fel a ddewisir gan y person rhagnodedig,

c

codau mynediad unigryw newydd,

d

cyfeiriadau aelwydydd a sefydliadau cymunedol,

e

yr aelwydydd neu’r sefydliadau cymunedol y mae pecynnau cyfrifiad wedi eu hanfon iddynt drwy’r post neu wedi eu danfon iddynt yn unol â’r Rheoliadau hyn, neu’r aelwydydd neu’r sefydliadau cymunedol y mae ymweliadau i’w cynnal â hwy,

f

amgylchiadau’r danfoniad ar gyfer pob pecyn cyfrifiad a ddanfonwyd gan swyddog cyfrifiad neu swyddog sefydliadau cymunedol,

g

y dyddiad pan ddaeth pob holiadur wedi ei lenwi a gafwyd gan yr Awdurdod i law, a’r modd y’i cafwyd,

h

amlgeisiadau am becynnau cyfrifiad neu godau mynediad unigryw newydd gan yr un person rhagnodedig,

i

dychwelyd mwy nag un holiadur wedi ei lenwi mewn perthynas â’r un person rhagnodedig,

j

y dyddiad pan wneir unrhyw gofnod yn unol â rheoliad 11(8)(a), 13(11)(b) neu 16(5)(b) a’r person rhagnodedig y’i gwnaed mewn cysylltiad ag ef, a

k

unrhyw wybodaeth arall y mae’r Awdurdod yn ystyried y gall gynorthwyo o ran cynnal y cyfrifiad.

2

Rhaid i’r Awdurdod ddarparu offeryn rheoli gwaith maes i’w ddefnyddio wrth gynnal y cyfrifiad, gan gynnwys er mwyn—

a

creu camau gweithredu y mae’n ofynnol i benodeion eu cymryd;

b

nodi cyfeiriadau eiddo i benodeion ymweld â hwy;

c

galluogi cofnodi gwybodaeth ar gyfer y system olrhain holiaduron.

3

Rhaid i’r Awdurdod ddarparu dyfeisiau electronig digonol (a elwir yn “dyfeisiau electronig y cyfrifiad” yn y Rheoliadau hyn) y gall pob penodai y mae angen iddo gael mynediad i’r offeryn rheoli gwaith maes eu defnyddio i wneud hynny a chael cyfarwyddiadau yn electronig.