- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Rhaid i’r Awdurdod ddarparu system olrhain holiaduron ar gyfer rheoli’r cyfrifiad ac ar gyfer cadw cofnodion ynghylch—
(a)rhifau adnabod holiaduron,
(b)codau mynediad unigryw sy’n rhoi mynediad i’r fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r holiadur fel a ddewisir gan y person rhagnodedig,
(c)codau mynediad unigryw newydd,
(d)cyfeiriadau aelwydydd a sefydliadau cymunedol,
(e)yr aelwydydd neu’r sefydliadau cymunedol y mae pecynnau cyfrifiad wedi eu hanfon iddynt drwy’r post neu wedi eu danfon iddynt yn unol â’r Rheoliadau hyn, neu’r aelwydydd neu’r sefydliadau cymunedol y mae ymweliadau i’w cynnal â hwy,
(f)amgylchiadau’r danfoniad ar gyfer pob pecyn cyfrifiad a ddanfonwyd gan swyddog cyfrifiad neu swyddog sefydliadau cymunedol,
(g)y dyddiad pan ddaeth pob holiadur wedi ei lenwi a gafwyd gan yr Awdurdod i law, a’r modd y’i cafwyd,
(h)amlgeisiadau am becynnau cyfrifiad neu godau mynediad unigryw newydd gan yr un person rhagnodedig,
(i)dychwelyd mwy nag un holiadur wedi ei lenwi mewn perthynas â’r un person rhagnodedig,
(j)y dyddiad pan wneir unrhyw gofnod yn unol â rheoliad 11(8)(a), 13(11)(b) neu 16(5)(b) a’r person rhagnodedig y’i gwnaed mewn cysylltiad ag ef, a
(k)unrhyw wybodaeth arall y mae’r Awdurdod yn ystyried y gall gynorthwyo o ran cynnal y cyfrifiad.
(2) Rhaid i’r Awdurdod ddarparu offeryn rheoli gwaith maes i’w ddefnyddio wrth gynnal y cyfrifiad, gan gynnwys er mwyn—
(a)creu camau gweithredu y mae’n ofynnol i benodeion eu cymryd;
(b)nodi cyfeiriadau eiddo i benodeion ymweld â hwy;
(c)galluogi cofnodi gwybodaeth ar gyfer y system olrhain holiaduron.
(3) Rhaid i’r Awdurdod ddarparu dyfeisiau electronig digonol (a elwir yn “dyfeisiau electronig y cyfrifiad” yn y Rheoliadau hyn) y gall pob penodai y mae angen iddo gael mynediad i’r offeryn rheoli gwaith maes eu defnyddio i wneud hynny a chael cyfarwyddiadau yn electronig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: