Dyletswyddau mewn perthynas â llenwi ffurflenni6

1

Rhaid i berson rhagnodedig, wrth lenwi ffurflen fel sy’n ofynnol gan Orchymyn y Cyfrifiad—

a

llenwi’r holiadur perthnasol a nodir ym mharagraff (3), yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar gyfer yr holiadur hwnnw;

b

cyflwyno’r holiadur sydd wedi ei lenwi i’r Awdurdod yn unol â’r Rheoliadau hyn.

2

Mae holiadur wedi ei gyflwyno i’r Awdurdod yn unol â’r Rheoliadau hyn—

a

mewn cysylltiad â holiadur ar-lein, pan yw’r Awdurdod wedi ei gael yn electronig, neu

b

mewn cysylltiad â holiadur papur, pan yw wedi dod i law penodai yn bersonol, neu pan yw wedi ei gael drwy’r post gan yr Awdurdod neu benodai.

3

Yr holiadur i’w llenwi a’i gyflwyno yn unol â’r Rheoliadau hyn gan berson rhagnodedig a grybwyllir yng ngholofn (1) o’r tabl yn Atodlen 1 yw’r holiadur ar-lein neu’r holiadur papur y cyfeirir ato yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) neu (3).

4

Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n atal person rhagnodedig sy’n ddeiliad aelwyd, neu unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y deiliad aelwyd hwnnw yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad, rhag llenwi ffurflen fel sy’n ofynnol gan Orchymyn y Cyfrifiad—

a

drwy lenwi a chyflwyno holiadur papur a hefyd, mewn cysylltiad ag aelodau ychwanegol o aelwyd y deiliad aelwyd hwnnw, drwy lenwi a chyflwyno holiadur ar-lein, neu

b

drwy lenwi a chyflwyno holiadur ar-lein a hefyd, mewn cysylltiad ag aelodau ychwanegol o aelwyd y deiliad aelwyd hwnnw, drwy lenwi a chyflwyno holiadur papur.

5

Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n atal person sy’n llenwi ffurflen o dan erthygl 5(9)(a)(i) neu (b) o Orchymyn y Cyfrifiad ar ran person arall rhag llenwi’r ffurflen honno—

a

drwy lenwi a chyflwyno holiadur papur a hefyd, mewn cysylltiad â’r person arall hwnnw, drwy lenwi a chyflwyno holiadur ar-lein, neu

b

drwy lenwi a chyflwyno holiadur ar-lein a hefyd, mewn cysylltiad â’r person arall hwnnw, drwy lenwi a chyflwyno holiadur papur.