- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Rhaid i berson rhagnodedig, wrth lenwi ffurflen fel sy’n ofynnol gan Orchymyn y Cyfrifiad—
(a)llenwi’r holiadur perthnasol a nodir ym mharagraff (3), yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar gyfer yr holiadur hwnnw;
(b)cyflwyno’r holiadur sydd wedi ei lenwi i’r Awdurdod yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(2) Mae holiadur wedi ei gyflwyno i’r Awdurdod yn unol â’r Rheoliadau hyn—
(a)mewn cysylltiad â holiadur ar-lein, pan yw’r Awdurdod wedi ei gael yn electronig, neu
(b)mewn cysylltiad â holiadur papur, pan yw wedi dod i law penodai yn bersonol, neu pan yw wedi ei gael drwy’r post gan yr Awdurdod neu benodai.
(3) Yr holiadur i’w llenwi a’i gyflwyno yn unol â’r Rheoliadau hyn gan berson rhagnodedig a grybwyllir yng ngholofn (1) o’r tabl yn Atodlen 1 yw’r holiadur ar-lein neu’r holiadur papur y cyfeirir ato yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) neu (3).
(4) Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n atal person rhagnodedig sy’n ddeiliad aelwyd, neu unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y deiliad aelwyd hwnnw yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad, rhag llenwi ffurflen fel sy’n ofynnol gan Orchymyn y Cyfrifiad—
(a)drwy lenwi a chyflwyno holiadur papur a hefyd, mewn cysylltiad ag aelodau ychwanegol o aelwyd y deiliad aelwyd hwnnw, drwy lenwi a chyflwyno holiadur ar-lein, neu
(b)drwy lenwi a chyflwyno holiadur ar-lein a hefyd, mewn cysylltiad ag aelodau ychwanegol o aelwyd y deiliad aelwyd hwnnw, drwy lenwi a chyflwyno holiadur papur.
(5) Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n atal person sy’n llenwi ffurflen o dan erthygl 5(9)(a)(i) neu (b) o Orchymyn y Cyfrifiad ar ran person arall rhag llenwi’r ffurflen honno—
(a)drwy lenwi a chyflwyno holiadur papur a hefyd, mewn cysylltiad â’r person arall hwnnw, drwy lenwi a chyflwyno holiadur ar-lein, neu
(b)drwy lenwi a chyflwyno holiadur ar-lein a hefyd, mewn cysylltiad â’r person arall hwnnw, drwy lenwi a chyflwyno holiadur papur.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: