Dehongli3

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “aelwyd” yr ystyr a roddir i “household” gan erthygl 2(1) o Orchymyn y Cyfrifiad;

  • mae i “amlen radbost” (“prepaid envelope”) fel y mae’n ymddangos yn holiadur I2(paper) ac I2W(papur) yr un ystyr ag “amlen wedi ei thalu ymlaen llaw”;

  • ystyr “amlen wedi ei thalu ymlaen llaw” (“reply-paid envelope”) yw amlen sydd wedi ei chyfeirio ymlaen llaw ac nad oes angen i’r anfonwr dalu i’w hanfon;

  • mae i “annedd” yr ystyr a roddir i “dwelling” gan erthygl 2(1) o Orchymyn y Cyfrifiad;

  • ystyr “ardal cydgysylltydd cyfrifiad” (“census co-ordinator area”) yw ardal a grëir o dan reoliad 4(1)(b)(i);

  • ystyr “ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol” (“communal establishment co-ordinator area”) yw ardal a grëir o dan reoliad 4(1)(b)(ii);

  • ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw’r Bwrdd Ystadegau a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf 2007;

  • ystyr “cod mynediad unigryw” (“unique access code”) yw cod sy’n rhoi mynediad unigryw drwy’r rhyngrwyd i holiadur H2(online) ac H2W(ar-lein), holiadur I2(online) ac I2W(ar-lein), a holiadur CE2(online) ac CE2W(ar-lein). Mae’r cod mynediad unigryw yn rhoi mynediad i’r fersiwn Gymraeg a’r fersiwn Saesneg o’r holiadur y mae’r person rhagnodedig yn ei lenwi;

  • ystyr “cod mynediad unigryw newydd” (“replacement unique access code”) yw cod mynediad unigryw sy’n wahanol i god mynediad unigryw a ddarparwyd eisoes ac sy’n disodli’r cod hwnnw;

  • ystyr “cydgysylltydd cyfrifiad” (“census co-ordinator”) yw person a benodir o dan reoliad 4(1)(b)(i);

  • ystyr “cydgysylltydd sefydliadau cymunedol” (“communal establishment co-ordinator”) yw person a benodir o dan reoliad 4(1)(b)(ii);

  • ystyr “cyfrifiad” (“census”) yw’r cyfrifiad y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn cyfarwyddo ei gynnal;

  • ystyr “Deddf 1920” (“the 1920 Act”) yw Deddf y Cyfrifiad 1920;

  • ystyr “Deddf 2007” (“the 2007 Act”) yw Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 20074;

  • mae i “deiliad aelwyd” yr ystyr a roddir i “householder” gan erthygl 2(1) o Orchymyn y Cyfrifiad;

  • ystyr “diwrnod y cyfrifiad” (“census day”) yw 21 Mawrth 2021;

  • ystyr “dosbarth cyfrifo” (“enumeration district”) yw dosbarth a grëir o dan reoliad 4(1)(c);

  • ystyr “dyfais gyfrifiad electronig” (“census electronic device”) yw unrhyw ddyfais electronig y mae rhaid i’r Awdurdod ei darparu o dan reoliad 7(3);

  • ystyr “etholwr” (“elector”) yw person rhagnodedig sy’n ethol llenwi ffurflen unigolyn o dan erthygl 5(5) o Orchymyn y Cyfrifiad;

  • mae i “ffurflen unigolyn” yr ystyr a roddir i “individual return” gan erthygl 2(1) o Orchymyn y Cyfrifiad;

  • ystyr “y gofrestr cyfeiriadau” (“the address register”) yw’r gofrestr ac unrhyw is-set o’r gofrestr a ddefnyddir gan yr Awdurdod, sy’n cynnwys cyfeiriad pob aelwyd a phob sefydliad cymunedol yng Nghymru y mae’r Awdurdod yn ymwybodol ohonynt;

  • ystyr “Gorchymyn y Cyfrifiad” (“the Census Order”) yw Gorchymyn y Cyfrifiad (Cymru a Lloegr) 20205;

  • mae i “gwybodaeth bersonol” yr ystyr a roddir i “personal information” gan adran 39(2) o Ddeddf 2007;

  • ystyr “holiadur” (“questionnaire”) yw unrhyw holiadur ar-lein neu holiadur papur;

  • ystyr “holiadur ar-lein” (“online questionnaire”) yw unrhyw un neu ragor o’r holiaduron a ganlyn: H2(online), H2W(ar-lein), I2(online), I2W(ar-lein), CE2(online) neu CE2W(ar-lein);

  • ystyr “holiadur papur” (“paper questionnaire”) yw unrhyw un neu ragor o’r holiaduron a ganlyn: H2(paper), H2W(papur), HC2(paper), HC2W(papur), I2(paper), I2W(papur), CE2(paper) neu CE2W(papur);

  • ystyr “holiadur wedi ei lenwi” (“completed questionnaire”) yw holiadur sydd wedi ei lenwi gyda’r manylion y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i berson rhagnodedig eu darparu ac a oedd yn gywir am hanner nos ar ddiwrnod y cyfrifiad;

  • ystyr “offeryn rheoli gwaith maes” (“fieldwork management tool”) yw’r system electronig honno y mae rhaid i’r Awdurdod ei darparu o dan reoliad 7(2);

  • ystyr “pecyn aelwyd” (“household pack”) yw pecyn ar-lein i aelwydydd neu becyn papur i aelwydydd;

  • ystyr “pecyn aelwyd (parhad)” (“household continuation pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(5);

  • ystyr “pecyn ar-lein i aelwydydd” (“online household pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(3);

  • ystyr “pecyn ar-lein i sefydliadau cymunedol” (“online communal establishment pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(3);

  • ystyr “pecyn ar-lein i unigolion” (“online individual pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(3);

  • ystyr “pecyn i sefydliadau cymunedol” (“communal establishment pack”) yw pecyn ar-lein i sefydliadau cymunedol neu becyn papur i sefydliadau cymunedol;

  • ystyr “pecyn papur i aelwydydd” (“paper household pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(4);

  • ystyr “pecyn papur i sefydliadau cymunedol” (“paper communal establishment pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(4);

  • ystyr “pecyn papur i unigolion” (“paper individual pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(4);

  • ystyr “pecyn unigolyn” (“individual pack”) yw pecyn ar-lein i unigolion neu becyn papur i unigolion;

  • ystyr “pecynnau cyfrifiad” (“census packs”) yw unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a ddisgrifir yn rheoliad 8(3) i (5);

  • ystyr “penodai” (“appointee”) yw unrhyw berson a benodir o dan reoliad 4 neu a benodir gan yr Awdurdod cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym at ddibenion cynnal y cyfrifiad;

  • ystyr “person rhagnodedig” (“prescribed person”) yw person y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo lenwi ffurflen, neu unrhyw berson sy’n llenwi ffurflen ar ran person o’r fath yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad;

  • mae i “preswylydd arferol” yr ystyr a roddir i “usual resident” gan erthygl 2(3)(a) o Orchymyn y Cyfrifiad;

  • ystyr “rheolwr gweithrediadau ardal” (“area operations manager”) yw person a benodir o dan reoliad 4(1)(a);

  • ystyr “rhif adnabod holiadur” (“questionnaire identification number”) yw marc adnabod rhifol y gall peiriant ei ddarllen sy’n unigryw i bob holiadur;

  • ystyr “sefydliad cymunedol” (“communal establishment”) yw unrhyw sefydliad a bennir yng Ngrwpiau B i F o golofn 1 o Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad;

  • ystyr “swyddog cyfrifiad” (“census officer”) yw swyddog a benodir o dan reoliad 4(1)(c);

  • ystyr “swyddog sefydliadau cymunedol” (“communal establishment officer”) yw swyddog a benodir o dan reoliad 4(1)(c);

  • ystyr “system olrhain holiaduron” (“questionnaire tracking system”) yw unrhyw system neu systemau electronig a ddarperir gan yr Awdurdod o dan reoliad 7(1);

  • ystyr “yn electronig” (“electronically”) yw drwy ddefnyddio’r rhyngrwyd.

2

Yn y Rheoliadau hyn, mae’r byrfoddau a ganlyn yn gymwys—

Byrfodd (pan y’i defnyddir gyda’r term “holiadur”)

Ystyr

H2(online)

“Household Questionnaire (online)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1

H2W(ar-lein)

“Holiadur (ar-lein) y Cartref” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1

I2(online)

“Individual Questionnaire (online)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1

I2W(ar-lein)

“Holiadur (ar-lein) i Unigolion” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1

CE2(online)

“Communal Establishment Questionnaire (online)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1

CE2W(ar-lein)

“Holiadur (ar-lein) i Sefydliadau Cymunedol” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1

H2(paper)

“Household Questionnaire (paper)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1

H2W(papur)

“Holiadur (papur) y Cartref” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1

HC2(paper)

“Household Continuation Questionnaire (paper)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1

HC2W(papur)

“Holiadur (papur) y Cartref (Parhad)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1

I2(paper)

“Individual Questionnaire (paper)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1

I2W(papur)

“Holiadur (papur) i Unigolion” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1

CE2(paper)

“Communal Establishment Questionnaire (paper)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1

CE2W(papur)

“Holiadur (papur) i Sefydliadau Cymunedol” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1

3

Yn fersiwn Gymraeg y Rheoliadau hyn—

a

y gair Cymraeg sy’n cyfateb i “household” yw “aelwyd”, a

b

y geiriau Cymraeg sy’n cyfateb i “householder” yw “deiliad aelwyd”.

4

Yn fersiynau Cymraeg yr holiaduron—

a

y geiriau Cymraeg sy’n cyfateb i “household” yw “cartref” ac “aelodau o’r cartref” (yn ôl y digwydd), a

b

y gair Cymraeg sy’n cyfateb i “householder” yw “deiliad y cartref”.

5

Nid yw person rhagnodedig yn torri’r Rheoliadau hyn drwy ddychwelyd fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o holiadur gyda’r ddwy fersiwn wedi eu llenwi’n rhannol, ar yr amod bod yr wybodaeth a ddarperir yn yr holiaduron yn gyfystyr â ffurflen gyfan.