Datganiadau statudol ac ymgymeriadau20

1

Rhaid i bob penodai y rhoddir caniatâd iddo gan yr Awdurdod i gael mynediad i’r storfeydd data electronig wneud datganiad statudol sy’n cynnwys y geiriau a nodir yn Atodlen 3, yn unol â’r trefniadau a wneir gan yr Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl penodiad y penodai gan yr Awdurdod neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, pa un bynnag yw’r diweddaraf.

2

Caiff unrhyw gyflogai i’r Awdurdod (os yw’n cael ei gyfarwyddo’n addas gan yr Awdurdod i wneud hynny) gymryd y datganiad statudol y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i bob penodai nad yw’n ofynnol iddo gwblhau datganiad statudol o dan baragraff (1) gwblhau ffurflen yr ymgymeriad a nodir yn Atodlen 4, yn unol â’r trefniadau a wneir gan yr Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl penodiad y penodai neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, pa un bynnag yw’r diweddaraf.

4

Nid yw’n ofynnol i unrhyw benodai a benodwyd gan yr Awdurdod cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, ac a gwblhaodd ffurflen ymgymeriad a chanddi’r un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r ffurflen yn Atodlen 4, gwblhau ymgymeriad arall yn rhinwedd y rheoliad hwn.

5

At ddibenion paragraff (1), ystyr “storfeydd data electronig” yw’r systemau electronig hynny y mae’r Awdurdod yn eu defnyddio i storio’r manylion a gofnodir yn yr holl holiaduron y mae’r Awdurdod yn eu cael.