Dychwelyd holiaduron sefydliadau cymunedol14
1
Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn ar-lein i sefydliadau cymunedol wedi ei anfon neu ei ddanfon ato mewn sefydliad cymunedol, neu y derbyniwyd danfoniad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—
a
defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i holiadur CE2(online) neu CE2W(ar-lein), a
b
llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.
2
Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn papur i sefydliadau cymunedol wedi ei anfon neu ei ddanfon ato mewn sefydliad cymunedol, neu y derbyniwyd danfoniad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—
a
llenwi’r copi o holiadur CE2(paper) neu CE2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn, ei roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir, a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post, neu
b
defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir i gael mynediad i holiadur CE2(online) neu CE2W(ar-lein) a llenwi’r holiadur a’i gyflwyno wedi ei lenwi yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.
3
Mae paragraff (2) (ac nid paragraff (1)) yn gymwys i berson rhagnodedig sydd wedi cael pecyn ar-lein i sefydliadau cymunedol ond sydd hefyd wedi gofyn am becyn papur i sefydliadau cymunedol.
4
Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn unigolyn wedi ei draddodi iddo o dan reoliad 11(5), (6) neu (7), drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—
a
defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein) a llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein,
b
llenwi’r copi o holiadur I2(paper) neu I2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn, ei roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post, neu
c
os yw’n cael ei gyfarwyddo i wneud hynny gan y swyddog sefydliadau cymunedol, ddanfon yr holiadur I2(paper) neu I2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn ac sydd wedi ei lenwi at y person a chanddo ofal am y tro dros y sefydliad cymunedol neu at y swyddog sefydliadau cymunedol.
5
Rhaid i’r person a chanddo ofal am y tro dros y sefydliad cymunedol y traddodir holiadur I2(paper) neu I2W(papur) wedi ei lenwi iddo gan berson rhagnodedig (pa un ai o dan baragraff (4)(c) neu fel arall)—
a
sicrhau bod yr holiadur wedi ei roi mewn amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a heb oedi, ei anfon i’r Awdurdod drwy’r post, neu
b
danfon yr holiadur at y swyddog sefydliadau cymunedol.
6
Mewn cysylltiad â phob holiadur papur wedi ei lenwi a gesglir gan y swyddog sefydliadau cymunedol yn unol â’r rheoliad hwn, rhaid i’r swyddog sefydliadau cymunedol wneud cofnod yn nyfais gyfrifiad electronig y swyddog sefydliadau cymunedol.