- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
14.—(1) Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn ar-lein i sefydliadau cymunedol wedi ei anfon neu ei ddanfon ato mewn sefydliad cymunedol, neu y derbyniwyd danfoniad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—
(a)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i holiadur CE2(online) neu CE2W(ar-lein), a
(b)llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.
(2) Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn papur i sefydliadau cymunedol wedi ei anfon neu ei ddanfon ato mewn sefydliad cymunedol, neu y derbyniwyd danfoniad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—
(a)llenwi’r copi o holiadur CE2(paper) neu CE2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn, ei roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir, a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post, neu
(b)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir i gael mynediad i holiadur CE2(online) neu CE2W(ar-lein) a llenwi’r holiadur a’i gyflwyno wedi ei lenwi yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.
(3) Mae paragraff (2) (ac nid paragraff (1)) yn gymwys i berson rhagnodedig sydd wedi cael pecyn ar-lein i sefydliadau cymunedol ond sydd hefyd wedi gofyn am becyn papur i sefydliadau cymunedol.
(4) Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn unigolyn wedi ei draddodi iddo o dan reoliad 11(5), (6) neu (7), drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—
(a)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein) a llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein,
(b)llenwi’r copi o holiadur I2(paper) neu I2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn, ei roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post, neu
(c)os yw’n cael ei gyfarwyddo i wneud hynny gan y swyddog sefydliadau cymunedol, ddanfon yr holiadur I2(paper) neu I2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn ac sydd wedi ei lenwi at y person a chanddo ofal am y tro dros y sefydliad cymunedol neu at y swyddog sefydliadau cymunedol.
(5) Rhaid i’r person a chanddo ofal am y tro dros y sefydliad cymunedol y traddodir holiadur I2(paper) neu I2W(papur) wedi ei lenwi iddo gan berson rhagnodedig (pa un ai o dan baragraff (4)(c) neu fel arall)—
(a)sicrhau bod yr holiadur wedi ei roi mewn amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a heb oedi, ei anfon i’r Awdurdod drwy’r post, neu
(b)danfon yr holiadur at y swyddog sefydliadau cymunedol.
(6) Mewn cysylltiad â phob holiadur papur wedi ei lenwi a gesglir gan y swyddog sefydliadau cymunedol yn unol â’r rheoliad hwn, rhaid i’r swyddog sefydliadau cymunedol wneud cofnod yn nyfais gyfrifiad electronig y swyddog sefydliadau cymunedol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: