Dychwelyd holiaduron aelwydydd ac etholwyr13

1

Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn aelwyd ar-lein wedi ei anfon neu ei ddanfon ato, neu y derbyniwyd danfoniad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—

a

defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i holiadur H2(online) neu H2W(ar-lein), a

b

llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.

2

Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn papur i aelwydydd neu becyn aelwyd (parhad) wedi ei anfon neu ei ddanfon ato, neu y derbyniwyd danfoniad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—

a

llenwi, fel y bo’n briodol, gopi o’r holiadur H2(paper), H2W(papur), HC2(paper) neu HC2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn a’i roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post. Caniateir i holiaduron o’r fath gael eu hanfon i’r Awdurdod drwy’r post yn yr un amlen wedi ei thalu ymlaen llaw, neu

b

defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir i gael mynediad i’r holiadur H2(online) neu H2W(ar-lein), a llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn electronig yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.

3

Mae paragraff (2) (ac nid paragraff (1)) yn gymwys i berson rhagnodedig sydd wedi cael pecyn ar-lein i aelwydydd ond sydd hefyd wedi gofyn am becyn papur i aelwydydd.

4

Rhaid i bob etholwr sydd wedi gofyn am becyn ar-lein i unigolion ac wedi ei gael, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—

a

defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein), a

b

llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.

5

Rhaid i bob etholwr sydd wedi gofyn am becyn papur i unigolion ac wedi ei gael, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—

a

llenwi’r copi o holiadur I2(paper) neu I2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn, ei roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post, neu

b

defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i’r holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein), a llenwi a chyflwyno holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein) yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.

6

Rhaid i bob etholwr sicrhau bod un o’r holiaduron a ganlyn: H2(online) neu H2W(ar-lein), H2(paper) neu H2W(papur), HC2(paper) neu HC2W(papur), I2(online) neu I2W(ar-lein), I2(paper) neu I2W(papur), wedi ei lenwi mewn cysylltiad ag ef ei hunan.

7

Pan fo holiadur H2(online) neu H2W(ar-lein), holiadur H2(paper) neu H2W(papur), neu holiadur HC2(paper) neu HC2W(papur) wedi ei lenwi mewn cysylltiad ag etholwr, caiff yr etholwr hwnnw ddewis cydymffurfio â pharagraff (4) neu (5) (ond nid yw’n ofynnol iddo wneud hynny).

8

Mae holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein), neu holiadur I2(paper) neu I2W(papur) a gyflwynir gan etholwr yn drech na holiadur H2(online) neu H2W(ar-lein), holiadur H2(paper) neu H2W(papur), neu holiadur HC2(paper) neu HC2W(papur), mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth am yr etholwr hwnnw.

9

Cyn gynted â phosibl ar ôl i bob holiadur H2(online), H2W(ar-lein), H2(paper), H2W(papur), HC2(paper), HC2W(papur), I2(online), I2W(ar-lein), I2(paper) neu I2W(papur) wedi ei lenwi ddod i law’r Awdurdod, rhaid i’r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod yr holiadur perthnasol wedi ei ddychwelyd.

10

Pan fo penodai wedi ei fodloni, ar ôl siarad â pherson rhagnodedig at ddibenion erthygl 5(1) neu (3) o Orchymyn y Cyfrifiad, nad yw’r person rhagnodedig—

a

yn alluog i lenwi a dychwelyd holiadur, na

b

yn gallu awdurdodi unrhyw berson i weithredu ar ran y person rhagnodedig, wedyn mae paragraff (11) yn gymwys.

11

O ran y penodai—

a

caiff, yn unol â chyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, wneud ymholiadau ynghylch y manylion y byddai Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r person rhagnodedig y cyfeirir ato ym mharagraff (10) eu darparu, a

b

rhaid iddo gofnodi’r atebion i’r ymholiadau hynny y caniateir iddynt gael eu defnyddio at ddiben y cyfrifiad.

12

Cyn gynted â phosibl ar ôl i benodai gofnodi’r atebion yn unol â pharagraff (11)(b), rhaid i’r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod cofnod o’r fath wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r person rhagnodedig hwnnw.