- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13.—(1) Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn aelwyd ar-lein wedi ei anfon neu ei ddanfon ato, neu y derbyniwyd danfoniad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—
(a)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i holiadur H2(online) neu H2W(ar-lein), a
(b)llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.
(2) Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn papur i aelwydydd neu becyn aelwyd (parhad) wedi ei anfon neu ei ddanfon ato, neu y derbyniwyd danfoniad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—
(a)llenwi, fel y bo’n briodol, gopi o’r holiadur H2(paper), H2W(papur), HC2(paper) neu HC2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn a’i roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post. Caniateir i holiaduron o’r fath gael eu hanfon i’r Awdurdod drwy’r post yn yr un amlen wedi ei thalu ymlaen llaw, neu
(b)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir i gael mynediad i’r holiadur H2(online) neu H2W(ar-lein), a llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn electronig yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.
(3) Mae paragraff (2) (ac nid paragraff (1)) yn gymwys i berson rhagnodedig sydd wedi cael pecyn ar-lein i aelwydydd ond sydd hefyd wedi gofyn am becyn papur i aelwydydd.
(4) Rhaid i bob etholwr sydd wedi gofyn am becyn ar-lein i unigolion ac wedi ei gael, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—
(a)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein), a
(b)llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.
(5) Rhaid i bob etholwr sydd wedi gofyn am becyn papur i unigolion ac wedi ei gael, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—
(a)llenwi’r copi o holiadur I2(paper) neu I2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn, ei roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post, neu
(b)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i’r holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein), a llenwi a chyflwyno holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein) yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.
(6) Rhaid i bob etholwr sicrhau bod un o’r holiaduron a ganlyn: H2(online) neu H2W(ar-lein), H2(paper) neu H2W(papur), HC2(paper) neu HC2W(papur), I2(online) neu I2W(ar-lein), I2(paper) neu I2W(papur), wedi ei lenwi mewn cysylltiad ag ef ei hunan.
(7) Pan fo holiadur H2(online) neu H2W(ar-lein), holiadur H2(paper) neu H2W(papur), neu holiadur HC2(paper) neu HC2W(papur) wedi ei lenwi mewn cysylltiad ag etholwr, caiff yr etholwr hwnnw ddewis cydymffurfio â pharagraff (4) neu (5) (ond nid yw’n ofynnol iddo wneud hynny).
(8) Mae holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein), neu holiadur I2(paper) neu I2W(papur) a gyflwynir gan etholwr yn drech na holiadur H2(online) neu H2W(ar-lein), holiadur H2(paper) neu H2W(papur), neu holiadur HC2(paper) neu HC2W(papur), mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth am yr etholwr hwnnw.
(9) Cyn gynted â phosibl ar ôl i bob holiadur H2(online), H2W(ar-lein), H2(paper), H2W(papur), HC2(paper), HC2W(papur), I2(online), I2W(ar-lein), I2(paper) neu I2W(papur) wedi ei lenwi ddod i law’r Awdurdod, rhaid i’r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod yr holiadur perthnasol wedi ei ddychwelyd.
(10) Pan fo penodai wedi ei fodloni, ar ôl siarad â pherson rhagnodedig at ddibenion erthygl 5(1) neu (3) o Orchymyn y Cyfrifiad, nad yw’r person rhagnodedig—
(a)yn alluog i lenwi a dychwelyd holiadur, na
(b)yn gallu awdurdodi unrhyw berson i weithredu ar ran y person rhagnodedig, wedyn mae paragraff (11) yn gymwys.
(11) O ran y penodai—
(a)caiff, yn unol â chyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, wneud ymholiadau ynghylch y manylion y byddai Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r person rhagnodedig y cyfeirir ato ym mharagraff (10) eu darparu, a
(b)rhaid iddo gofnodi’r atebion i’r ymholiadau hynny y caniateir iddynt gael eu defnyddio at ddiben y cyfrifiad.
(12) Cyn gynted â phosibl ar ôl i benodai gofnodi’r atebion yn unol â pharagraff (11)(b), rhaid i’r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod cofnod o’r fath wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r person rhagnodedig hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: