Cais i gael pecynnau cyfrifiad a chodau mynediad unigryw newydd12
1
Os yw’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni, rhaid i’r Awdurdod ddarparu unrhyw becyn cyfrifiad neu god mynediad unigryw newydd i unrhyw berson rhagnodedig sy’n gofyn amdano.
2
Yr amodau hynny yw fel a ganlyn—
a
ym marn yr Awdurdod, mae’r pecyn cyfrifiad neu’r cod mynediad unigryw newydd yn berthnasol i’r person rhagnodedig hwnnw, a
b
mae’r person sy’n gwneud y cais yn darparu i’r Awdurdod y cyfeiriad y mae’r person (neu’r personau) rhagnodedig y mae’r holiadur i’w lenwi mewn cysylltiad ag ef (neu â hwy) yn breswylydd arferol ynddo (ac yn y ddarpariaeth hon, ystyr “yr holiadur” yw’r holiadur sy’n ymwneud â’r pecyn cyfrifiad neu’r cod mynediad unigryw newydd y gofynnwyd amdano).
3
Rhaid i’r Awdurdod ddarparu unrhyw becyn cyfrifiad y gofynnir amdano o dan baragraff (1) i’r cyfeiriad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) a chaiff anfon pecynnau cyfrifiad o’r fath drwy’r post neu eu danfon â llaw i’r cyfeiriad hwnnw.
4
Caiff yr Awdurdod ddarparu cod mynediad unigryw newydd o dan baragraff (1) drwy—
a
anfon y cod drwy’r post, neu ei ddanfon â llaw (ac yn y naill achos neu’r llall, rhaid i’r Awdurdod anfon neu ddanfon y cod mynediad unigryw newydd i’r cyfeiriad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b)), neu
b
anfon y cod yn uniongyrchol i rif ffôn symudol a ddarparwyd gan y person sy’n gwneud y cais i gael y cod mynediad unigryw newydd.