- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
12.—(1) Os yw’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni, rhaid i’r Awdurdod ddarparu unrhyw becyn cyfrifiad neu god mynediad unigryw newydd i unrhyw berson rhagnodedig sy’n gofyn amdano.
(2) Yr amodau hynny yw fel a ganlyn—
(a)ym marn yr Awdurdod, mae’r pecyn cyfrifiad neu’r cod mynediad unigryw newydd yn berthnasol i’r person rhagnodedig hwnnw, a
(b)mae’r person sy’n gwneud y cais yn darparu i’r Awdurdod y cyfeiriad y mae’r person (neu’r personau) rhagnodedig y mae’r holiadur i’w lenwi mewn cysylltiad ag ef (neu â hwy) yn breswylydd arferol ynddo (ac yn y ddarpariaeth hon, ystyr “yr holiadur” yw’r holiadur sy’n ymwneud â’r pecyn cyfrifiad neu’r cod mynediad unigryw newydd y gofynnwyd amdano).
(3) Rhaid i’r Awdurdod ddarparu unrhyw becyn cyfrifiad y gofynnir amdano o dan baragraff (1) i’r cyfeiriad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) a chaiff anfon pecynnau cyfrifiad o’r fath drwy’r post neu eu danfon â llaw i’r cyfeiriad hwnnw.
(4) Caiff yr Awdurdod ddarparu cod mynediad unigryw newydd o dan baragraff (1) drwy—
(a)anfon y cod drwy’r post, neu ei ddanfon â llaw (ac yn y naill achos neu’r llall, rhaid i’r Awdurdod anfon neu ddanfon y cod mynediad unigryw newydd i’r cyfeiriad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b)), neu
(b)anfon y cod yn uniongyrchol i rif ffôn symudol a ddarparwyd gan y person sy’n gwneud y cais i gael y cod mynediad unigryw newydd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: