Danfon pecynnau i sefydliadau cymunedol â llaw11

1

Rhaid i’r Awdurdod ddyroddi’r canlynol i bob cydgysylltydd sefydliadau cymunedol—

a

dyfeisiau electronig digonol i’w defnyddio ym mhob dosbarth cyfrifo o fewn ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol y cydgysylltydd sefydliadau cymunedol hwnnw;

b

unrhyw becynnau sefydliadau cymunedol a phecynnau unigolyn y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad;

c

rhestr, sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn rheoli gwaith maes, o gyfeiriadau pob sefydliad cymunedol yn y gofrestr cyfeiriadau sydd yn ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol y cydgysylltydd sefydliadau cymunedol hwnnw;

d

unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall y mae’n ystyried eu bod neu ei bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad.

2

Rhaid i bob cydgysylltydd sefydliadau cymunedol—

a

dynodi swyddog sefydliadau cymunedol i ddanfon pecynnau sefydliadau cymunedol a phecynnau unigolyn i bob dosbarth cyfrifo;

b

cyflenwi i bob swyddog sefydliadau cymunedol a ddynodir o dan baragraff (2)(a) yr eitemau hynny ym mharagraff (1)(a) i (d), a niferoedd digonol ohonynt, y mae eu hangen ar y swyddog sefydliadau cymunedol er mwyn cyflawni dyletswyddau’r swyddog sefydliadau cymunedol hwnnw o dan y Rheoliadau hyn.

3

Rhaid i bob cydgysylltydd sefydliadau cymunedol a ddynodir o dan baragraff (2)(a) ddanfon—

a

pecyn sefydliadau cymunedol i bob sefydliad cymunedol y mae ei gyfeiriad wedi ei gynnwys yn y rhestr o gyfeiriadau y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(c) ac sydd o fewn dosbarth cyfrifo’r swyddog sefydliadau cymunedol hwnnw,

b

nifer digonol o becynnau unigolyn i bob un o’r sefydliadau cymunedol hynny at ddiben y cyfrifiad, ac

c

pecynnau sefydliadau cymunedol a phecynnau unigolyn i unrhyw sefydliadau cymunedol eraill a nodir gan y swyddog sefydliadau cymunedol yn nosbarth cyfrifo’r swyddog sefydliadau cymunedol.

4

Mae dyletswydd swyddog sefydliadau cymunedol i ddanfon pecynnau cyfrifiad o dan baragraff (3) wedi ei bodloni mewn perthynas â phob sefydliad cymunedol os yw’r swyddog sefydliadau cymunedol yn danfon y pecynnau cyfrifiad at y person a chanddo ofal am y tro dros y sefydliad cymunedol neu, pan na fo person o’r fath ar gael, os yw’r swyddog sefydliadau cymunedol—

a

yn gadael y pecynnau cyfrifiad gyda pherson cyfrifol sy’n honni ei fod yn gweithredu ar ran y person hwnnw a chanddo ofal am y tro dros y sefydliad cymunedol, neu

b

pan na fo unigolyn cyfrifol o’r fath ar gael, yn gadael y pecynnau cyfrifiad yn y cyfeiriad perthnasol sydd wedi ei gynnwys yn yr offeryn rheoli gwaith maes.

5

Caiff y cydgysylltydd sefydliadau cymunedol gyfarwyddo’r swyddog sefydliadau cymunedol i ddosbarthu cynifer o’r pecynnau unigolyn ag a ddanfonir o dan baragraff (3) i’r personau hynny sy’n breswylwyr arferol yn y sefydliad cymunedol ac y mae’n ymddangos i’r swyddog sefydliadau cymunedol eu bod yn alluog i lenwi’r holiadur sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn.

6

Os yw’n ymddangos i’r swyddog sefydliadau cymunedol nad yw preswylydd arferol yn alluog i lenwi’r holiadur hwnnw, caiff y swyddog sefydliadau cymunedol draddodi’r pecyn unigolyn i berthynas i’r preswylydd arferol, neu i berson arall, sydd wedi cytuno i lenwi’r holiadur ar ran y preswylydd arferol yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad.

7

Caiff swyddog sefydliadau cymunedol ofyn i’r person a chanddo ofal am y tro dros sefydliad cymunedol ddosbarthu pecynnau unigolyn mewn perthynas â’r sefydliad cymunedol hwnnw, yn yr un modd ag a nodir ym mharagraffau (5) a (6).

8

Rhaid i bob swyddog sefydliadau cymunedol—

a

gwneud cofnod yn y ddyfais gyfrifiad electronig o’r canlynol—

i

pob pecyn sefydliadau cymunedol a phob pecyn unigolyn sydd wedi eu danfon yn unol â pharagraff (3)(a), (b) neu (c),

ii

unrhyw sefydliadau cymunedol ychwanegol y mae’r swyddog sefydliadau cymunedol wedi danfon pecynnau sefydliadau cymunedol a phecynnau unigolyn iddynt o dan baragraff (3)(c), a

iii

casglu holiaduron papur;

b

galluogi’r cydgysylltydd sefydliadau cymunedol i gael mynediad i’r wybodaeth yn nyfais gyfrifiad electronig y swyddog sefydliadau cymunedol neu’r wybodaeth sydd ar gael drwy’r ddyfais honno.

9

Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n atal swyddog sefydliadau cymunedol rhag cael ei ddynodi i ddanfon pecynnau i fwy nag un dosbarth cyfrifo.