Danfon pecynnau i aelwydydd ac at etholwyr â llaw10
1
Rhaid i’r Awdurdod ddyroddi i bob cydgysylltydd cyfrifiad—
a
dyfais gyfrifiad electronig i’w defnyddio ym mhob dosbarth cyfrifo o fewn ardal cydgysylltydd cyfrifiad y cydgysylltydd cyfrifiad hwnnw;
b
unrhyw becynnau aelwyd a phecynnau unigolyn y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad;
c
rhestr, sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn rheoli gwaith maes, o gyfeiriadau pob aelwyd a phob etholwr yn y gofrestr cyfeiriadau sydd yn ardal cydgysylltydd cyfrifiad y cydgysylltydd cyfrifiad hwnnw y mae pecynnau aelwyd a phecynnau unigolyn (fel y bo’n briodol) i’w danfon â llaw iddynt yn unol â rheoliad 9(2);
d
unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall y mae’n ystyried eu bod neu ei bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad.
2
Rhaid i bob cydgysylltydd cyfrifiad—
a
dynodi swyddog cyfrifiad i ddanfon pecynnau aelwyd a phecynnau unigolyn i bob dosbarth cyfrifo;
b
rhoi i’r swyddog cyfrifiad hwnnw yr eitemau hynny ym mharagraff (1)(a) i (d), a niferoedd digonol ohonynt, y mae eu hangen ar y swyddog cyfrifiad er mwyn cyflawni dyletswyddau’r swyddog cyfrifiad hwnnw o dan y Rheoliadau hyn.
3
Rhaid i bob swyddog cyfrifiad a ddynodir o dan baragraff (2)(a) wedyn ddanfon—
a
pecyn aelwyd neu becyn unigolyn i bob aelwyd neu etholwr (yn ôl y digwydd) y mae ei chyfeiriad neu ei gyfeiriad wedi ei gynnwys yn y rhestr o gyfeiriadau y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(c) ac sydd o fewn dosbarth cyfrifo’r swyddog cyfrifiad hwnnw;
b
pecynnau aelwyd a phecynnau unigolyn (fel y bo’n briodol) i unrhyw aelwydydd eraill neu at unrhyw etholwyr eraill sydd wedi eu nodi gan y swyddog cyfrifiad yn nosbarth cyfrifo’r swyddog cyfrifiad hwnnw.
4
Mae dyletswydd swyddog cyfrifiad i ddanfon pecyn cyfrifiad o dan baragraff (3) wedi ei bodloni mewn perthynas â phob aelwyd os yw’r swyddog cyfrifiad yn traddodi pecyn aelwyd i’r deiliad aelwyd neu’r cyd-ddeiliad aelwyd, ac mewn perthynas â phob etholwr, os yw’r swyddog cyfrifiad yn traddodi pecyn unigolyn i’r etholwr neu, yn y naill achos neu’r llall, pan na fo person o’r fath ar gael, os yw’r swyddog cyfrifiad—
a
yn gadael y pecyn cyfrifiad gyda pherson cyfrifol sy’n honni ei fod yn gweithredu ar ran y deiliad aelwyd, y cyd-ddeiliad aelwyd neu’r etholwr (yn ôl y digwydd), neu
b
pan na fo unigolyn cyfrifol o’r fath ar gael, yn gadael y pecyn cyfrifiad yn y cyfeiriad perthnasol sydd wedi ei gynnwys yn yr offeryn rheoli gwaith maes, neu’n ei anfon drwy’r post i’r cyfeiriad hwnnw neu, os yw’n cael ei gyfarwyddo i wneud hynny gan y cydgysylltydd cyfrifiad, i gyfeiriad arall a ddarperir gan y cydgysylltydd cyfrifiad.
5
Rhaid i bob swyddog cyfrifiad—
a
gwneud cofnod yn y ddyfais gyfrifiad electronig o’r canlynol—
i
pob pecyn aelwyd a phecyn unigolyn a ddanfonwyd yn unol â pharagraff (3)(a) neu (b), a
ii
unrhyw aelwyd ychwanegol neu etholwr ychwanegol y mae’r swyddog cyfrifiad wedi danfon pecyn cyfrifiad iddi neu ato o dan baragraff (3)(b);
b
galluogi’r cydgysylltydd cyfrifiad i gael mynediad i’r wybodaeth a gofnodir yn nyfais gyfrifiad electronig y swyddog cyfrifiad neu’r wybodaeth sydd ar gael drwy’r ddyfais honno.
6
Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n atal swyddog cyfrifiad rhag cael ei ddynodi i ddanfon pecynnau i fwy nag un dosbarth cyfrifo.