- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
10.—(1) Rhaid i’r Awdurdod ddyroddi i bob cydgysylltydd cyfrifiad—
(a)dyfais gyfrifiad electronig i’w defnyddio ym mhob dosbarth cyfrifo o fewn ardal cydgysylltydd cyfrifiad y cydgysylltydd cyfrifiad hwnnw;
(b)unrhyw becynnau aelwyd a phecynnau unigolyn y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad;
(c)rhestr, sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn rheoli gwaith maes, o gyfeiriadau pob aelwyd a phob etholwr yn y gofrestr cyfeiriadau sydd yn ardal cydgysylltydd cyfrifiad y cydgysylltydd cyfrifiad hwnnw y mae pecynnau aelwyd a phecynnau unigolyn (fel y bo’n briodol) i’w danfon â llaw iddynt yn unol â rheoliad 9(2);
(d)unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall y mae’n ystyried eu bod neu ei bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad.
(2) Rhaid i bob cydgysylltydd cyfrifiad—
(a)dynodi swyddog cyfrifiad i ddanfon pecynnau aelwyd a phecynnau unigolyn i bob dosbarth cyfrifo;
(b)rhoi i’r swyddog cyfrifiad hwnnw yr eitemau hynny ym mharagraff (1)(a) i (d), a niferoedd digonol ohonynt, y mae eu hangen ar y swyddog cyfrifiad er mwyn cyflawni dyletswyddau’r swyddog cyfrifiad hwnnw o dan y Rheoliadau hyn.
(3) Rhaid i bob swyddog cyfrifiad a ddynodir o dan baragraff (2)(a) wedyn ddanfon—
(a)pecyn aelwyd neu becyn unigolyn i bob aelwyd neu etholwr (yn ôl y digwydd) y mae ei chyfeiriad neu ei gyfeiriad wedi ei gynnwys yn y rhestr o gyfeiriadau y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(c) ac sydd o fewn dosbarth cyfrifo’r swyddog cyfrifiad hwnnw;
(b)pecynnau aelwyd a phecynnau unigolyn (fel y bo’n briodol) i unrhyw aelwydydd eraill neu at unrhyw etholwyr eraill sydd wedi eu nodi gan y swyddog cyfrifiad yn nosbarth cyfrifo’r swyddog cyfrifiad hwnnw.
(4) Mae dyletswydd swyddog cyfrifiad i ddanfon pecyn cyfrifiad o dan baragraff (3) wedi ei bodloni mewn perthynas â phob aelwyd os yw’r swyddog cyfrifiad yn traddodi pecyn aelwyd i’r deiliad aelwyd neu’r cyd-ddeiliad aelwyd, ac mewn perthynas â phob etholwr, os yw’r swyddog cyfrifiad yn traddodi pecyn unigolyn i’r etholwr neu, yn y naill achos neu’r llall, pan na fo person o’r fath ar gael, os yw’r swyddog cyfrifiad—
(a)yn gadael y pecyn cyfrifiad gyda pherson cyfrifol sy’n honni ei fod yn gweithredu ar ran y deiliad aelwyd, y cyd-ddeiliad aelwyd neu’r etholwr (yn ôl y digwydd), neu
(b)pan na fo unigolyn cyfrifol o’r fath ar gael, yn gadael y pecyn cyfrifiad yn y cyfeiriad perthnasol sydd wedi ei gynnwys yn yr offeryn rheoli gwaith maes, neu’n ei anfon drwy’r post i’r cyfeiriad hwnnw neu, os yw’n cael ei gyfarwyddo i wneud hynny gan y cydgysylltydd cyfrifiad, i gyfeiriad arall a ddarperir gan y cydgysylltydd cyfrifiad.
(5) Rhaid i bob swyddog cyfrifiad—
(a)gwneud cofnod yn y ddyfais gyfrifiad electronig o’r canlynol—
(i)pob pecyn aelwyd a phecyn unigolyn a ddanfonwyd yn unol â pharagraff (3)(a) neu (b), a
(ii)unrhyw aelwyd ychwanegol neu etholwr ychwanegol y mae’r swyddog cyfrifiad wedi danfon pecyn cyfrifiad iddi neu ato o dan baragraff (3)(b);
(b)galluogi’r cydgysylltydd cyfrifiad i gael mynediad i’r wybodaeth a gofnodir yn nyfais gyfrifiad electronig y swyddog cyfrifiad neu’r wybodaeth sydd ar gael drwy’r ddyfais honno.
(6) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n atal swyddog cyfrifiad rhag cael ei ddynodi i ddanfon pecynnau i fwy nag un dosbarth cyfrifo.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: