(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r trefniadau manwl sy’n angenrheidiol er mwyn cynnal y cyfrifiad yng Nghymru y cyfarwyddwyd ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 gan Orchymyn y Cyfrifiad (Cymru a Lloegr) 2020 (O.S. 2020/532) (“Gorchymyn y Cyfrifiad”). Maent hefyd yn dirymu Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1361 (Cy. 116)).
Mae rheoliad 3 yn darparu diffiniadau ar gyfer dehongli’r Rheoliadau hyn ynghyd â byrfoddau i ddehongli’r holiaduron a ddefnyddir yn y cyfrifiad. Mae rheoliad 3 hefyd yn darparu nad yw person rhagnodedig yn torri’r Rheoliadau hyn drwy ddychwelyd fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o holiadur gyda’r ddwy fersiwn wedi eu llenwi’n rhannol, ar yr amod bod yr wybodaeth a ddarperir yn yr holiaduron yn gyfystyr â ffurflen gyfan.
Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer rhannu Cymru yn ardaloedd cyfrifiad, ardaloedd cydgysylltu cyfrifiad, ardaloedd cydgysylltu sefydliadau cymunedol a dosbarthau cyfrifo. Mae hefyd yn darparu ar gyfer penodi personau i gyflawni’r dyletswyddau a neilltuir iddynt o dan y Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 5 yn cyflwyno’r gofynion ar gyfer yr holiaduron i’w defnyddio yn ystod y cyfrifiad. Rhaid bod gan yr holiaduron ar-lein y cwestiynau a’r opsiynau ymateb a’r swyddogaethau a’r nodweddion a nodir yn Rhannau 1, 2, 3 ac 8 o Atodlen 2. Rhaid i’r holiaduron papur fod ar y ffurf a ddangosir yn Rhannau 4, 5, 6 a 7 o Atodlen 2.
Mae rheoliad 6 yn darparu y bydd person y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo lenwi ffurflen yn y cyfrifiad yn cyflawni ei gyfrifoldeb pan fydd yr holiadur papur neu’r holiadur ar-lein perthnasol a bennir yn Atodlen 1 wedi dod i law’r Bwrdd Ystadegau (“yr Awdurdod”). Mae rheoliad 6 hefyd yn darparu y caiff deiliad aelwyd neu gyd-ddeiliad aelwyd, neu berson a chanddo ofal am y tro dros sefydliad cymunedol, gyflwyno ffurflen bapur mewn perthynas â’r aelwyd neu’r sefydliad cymunedol a ffurflenni ar-lein mewn perthynas â phersonau unigol ar yr aelwyd honno neu yn y sefydliad cymunedol hwnnw, neu yn y drefn arall.
Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod ddarparu systemau electronig digonol (system olrhain holiaduron ac offeryn rheoli gwaith maes) a dyfeisiau electronig digonol (dyfeisiau electronig y cyfrifiad) i gefnogi cynnal y cyfrifiad.
Mae rheoliad 8 yn nodi’r gofynion ar gyfer cynnwys y mathau gwahanol o becynnau cyfrifiad.
Mae rheoliadau 9 i 15 yn darparu trefniadau manwl ar gyfer darparu’r holiaduron dwyieithog, eu danfon, eu llenwi a’u dychwelyd. Bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael o bob holiadur. Bydd mynediad i bob categori o holiadur ar-lein drwy ddefnyddio cod mynediad unigryw, er enghraifft, bydd un cod mynediad unigryw yn rhoi mynediad i fersiynau Cymraeg a Saesneg Holiaduron y Cartref.
Mae rheoliad 16 yn darparu i gamau gweithredu dilynol gael eu cymryd os na fydd holiadur a anfonwyd neu a ddanfonwyd yn unol â’r Rheoliadau hyn yn cael ei ddychwelyd, neu os bydd yn cael ei ddychwelyd yn anghyflawn.
Mae rheoliad 17 yn gwneud darpariaeth i wybodaeth gael ei rhoi gan berson rhagnodedig i berson sy’n llenwi ffurflen ar ei ran, neu i berson sydd wedi ei benodi i gyflawni dyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth i atal gwybodaeth a geir at ddiben y cyfrifiad rhag cael ei defnyddio, ei chyhoeddi a’i chyfathrebu heb awdurdod.
Mae rheoliadau 18 a 19 yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â chadw holiaduron a dyfeisiau electronig y cyfrifiad yn ddiogel yn ogystal â storio a diogelu gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’r cyfrifiad.
Mae rheoliad 20 yn darparu ar gyfer rhoi naill ai datganiad statudol neu ymgymeriad ynghylch cyfrinachedd gwybodaeth a geir o ganlyniad i’r cyfrifiad gan bersonau a fydd yn cael mynediad at yr wybodaeth honno.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.