Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 2020.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Mehefin 2020.
3
Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu2
Mae Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 20103 wedi eu dirymu.
Dehongli3
1
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “aelwyd” yr ystyr a roddir i “household” gan erthygl 2(1) o Orchymyn y Cyfrifiad;
mae i “amlen radbost” (“prepaid envelope”) fel y mae’n ymddangos yn holiadur I2(paper) ac I2W(papur) yr un ystyr ag “amlen wedi ei thalu ymlaen llaw”;
ystyr “amlen wedi ei thalu ymlaen llaw” (“reply-paid envelope”) yw amlen sydd wedi ei chyfeirio ymlaen llaw ac nad oes angen i’r anfonwr dalu i’w hanfon;
mae i “annedd” yr ystyr a roddir i “dwelling” gan erthygl 2(1) o Orchymyn y Cyfrifiad;
ystyr “ardal cydgysylltydd cyfrifiad” (“census co-ordinator area”) yw ardal a grëir o dan reoliad 4(1)(b)(i);
ystyr “ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol” (“communal establishment co-ordinator area”) yw ardal a grëir o dan reoliad 4(1)(b)(ii);
ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw’r Bwrdd Ystadegau a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf 2007;
ystyr “cod mynediad unigryw” (“unique access code”) yw cod sy’n rhoi mynediad unigryw drwy’r rhyngrwyd i holiadur H2(online) ac H2W(ar-lein), holiadur I2(online) ac I2W(ar-lein), a holiadur CE2(online) ac CE2W(ar-lein). Mae’r cod mynediad unigryw yn rhoi mynediad i’r fersiwn Gymraeg a’r fersiwn Saesneg o’r holiadur y mae’r person rhagnodedig yn ei lenwi;
ystyr “cod mynediad unigryw newydd” (“replacement unique access code”) yw cod mynediad unigryw sy’n wahanol i god mynediad unigryw a ddarparwyd eisoes ac sy’n disodli’r cod hwnnw;
ystyr “cydgysylltydd cyfrifiad” (“census co-ordinator”) yw person a benodir o dan reoliad 4(1)(b)(i);
ystyr “cydgysylltydd sefydliadau cymunedol” (“communal establishment co-ordinator”) yw person a benodir o dan reoliad 4(1)(b)(ii);
ystyr “cyfrifiad” (“census”) yw’r cyfrifiad y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn cyfarwyddo ei gynnal;
ystyr “Deddf 1920” (“the 1920 Act”) yw Deddf y Cyfrifiad 1920;
ystyr “Deddf 2007” (“the 2007 Act”) yw Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 20074;
mae i “deiliad aelwyd” yr ystyr a roddir i “householder” gan erthygl 2(1) o Orchymyn y Cyfrifiad;
ystyr “diwrnod y cyfrifiad” (“census day”) yw 21 Mawrth 2021;
ystyr “dosbarth cyfrifo” (“enumeration district”) yw dosbarth a grëir o dan reoliad 4(1)(c);
ystyr “dyfais gyfrifiad electronig” (“census electronic device”) yw unrhyw ddyfais electronig y mae rhaid i’r Awdurdod ei darparu o dan reoliad 7(3);
ystyr “etholwr” (“elector”) yw person rhagnodedig sy’n ethol llenwi ffurflen unigolyn o dan erthygl 5(5) o Orchymyn y Cyfrifiad;
mae i “ffurflen unigolyn” yr ystyr a roddir i “individual return” gan erthygl 2(1) o Orchymyn y Cyfrifiad;
ystyr “y gofrestr cyfeiriadau” (“the address register”) yw’r gofrestr ac unrhyw is-set o’r gofrestr a ddefnyddir gan yr Awdurdod, sy’n cynnwys cyfeiriad pob aelwyd a phob sefydliad cymunedol yng Nghymru y mae’r Awdurdod yn ymwybodol ohonynt;
ystyr “Gorchymyn y Cyfrifiad” (“the Census Order”) yw Gorchymyn y Cyfrifiad (Cymru a Lloegr) 20205;
mae i “gwybodaeth bersonol” yr ystyr a roddir i “personal information” gan adran 39(2) o Ddeddf 2007;
ystyr “holiadur” (“questionnaire”) yw unrhyw holiadur ar-lein neu holiadur papur;
ystyr “holiadur ar-lein” (“online questionnaire”) yw unrhyw un neu ragor o’r holiaduron a ganlyn: H2(online), H2W(ar-lein), I2(online), I2W(ar-lein), CE2(online) neu CE2W(ar-lein);
ystyr “holiadur papur” (“paper questionnaire”) yw unrhyw un neu ragor o’r holiaduron a ganlyn: H2(paper), H2W(papur), HC2(paper), HC2W(papur), I2(paper), I2W(papur), CE2(paper) neu CE2W(papur);
ystyr “holiadur wedi ei lenwi” (“completed questionnaire”) yw holiadur sydd wedi ei lenwi gyda’r manylion y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i berson rhagnodedig eu darparu ac a oedd yn gywir am hanner nos ar ddiwrnod y cyfrifiad;
ystyr “offeryn rheoli gwaith maes” (“fieldwork management tool”) yw’r system electronig honno y mae rhaid i’r Awdurdod ei darparu o dan reoliad 7(2);
ystyr “pecyn aelwyd” (“household pack”) yw pecyn ar-lein i aelwydydd neu becyn papur i aelwydydd;
ystyr “pecyn aelwyd (parhad)” (“household continuation pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(5);
ystyr “pecyn ar-lein i aelwydydd” (“online household pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(3);
ystyr “pecyn ar-lein i sefydliadau cymunedol” (“online communal establishment pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(3);
ystyr “pecyn ar-lein i unigolion” (“online individual pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(3);
ystyr “pecyn i sefydliadau cymunedol” (“communal establishment pack”) yw pecyn ar-lein i sefydliadau cymunedol neu becyn papur i sefydliadau cymunedol;
ystyr “pecyn papur i aelwydydd” (“paper household pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(4);
ystyr “pecyn papur i sefydliadau cymunedol” (“paper communal establishment pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(4);
ystyr “pecyn papur i unigolion” (“paper individual pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(4);
ystyr “pecyn unigolyn” (“individual pack”) yw pecyn ar-lein i unigolion neu becyn papur i unigolion;
ystyr “pecynnau cyfrifiad” (“census packs”) yw unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a ddisgrifir yn rheoliad 8(3) i (5);
ystyr “penodai” (“appointee”) yw unrhyw berson a benodir o dan reoliad 4 neu a benodir gan yr Awdurdod cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym at ddibenion cynnal y cyfrifiad;
ystyr “person rhagnodedig” (“prescribed person”) yw person y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo lenwi ffurflen, neu unrhyw berson sy’n llenwi ffurflen ar ran person o’r fath yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad;
mae i “preswylydd arferol” yr ystyr a roddir i “usual resident” gan erthygl 2(3)(a) o Orchymyn y Cyfrifiad;
ystyr “rheolwr gweithrediadau ardal” (“area operations manager”) yw person a benodir o dan reoliad 4(1)(a);
ystyr “rhif adnabod holiadur” (“questionnaire identification number”) yw marc adnabod rhifol y gall peiriant ei ddarllen sy’n unigryw i bob holiadur;
ystyr “sefydliad cymunedol” (“communal establishment”) yw unrhyw sefydliad a bennir yng Ngrwpiau B i F o golofn 1 o Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad;
ystyr “swyddog cyfrifiad” (“census officer”) yw swyddog a benodir o dan reoliad 4(1)(c);
ystyr “swyddog sefydliadau cymunedol” (“communal establishment officer”) yw swyddog a benodir o dan reoliad 4(1)(c);
ystyr “system olrhain holiaduron” (“questionnaire tracking system”) yw unrhyw system neu systemau electronig a ddarperir gan yr Awdurdod o dan reoliad 7(1);
ystyr “yn electronig” (“electronically”) yw drwy ddefnyddio’r rhyngrwyd.
2
Yn y Rheoliadau hyn, mae’r byrfoddau a ganlyn yn gymwys—
Byrfodd (pan y’i defnyddir gyda’r term “holiadur”) | Ystyr |
|---|---|
H2(online) | “Household Questionnaire (online)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1 |
H2W(ar-lein) | “Holiadur (ar-lein) y Cartref” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1 |
I2(online) | “Individual Questionnaire (online)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1 |
I2W(ar-lein) | “Holiadur (ar-lein) i Unigolion” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1 |
CE2(online) | “Communal Establishment Questionnaire (online)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1 |
CE2W(ar-lein) | “Holiadur (ar-lein) i Sefydliadau Cymunedol” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1 |
H2(paper) | “Household Questionnaire (paper)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1 |
H2W(papur) | “Holiadur (papur) y Cartref” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1 |
HC2(paper) | “Household Continuation Questionnaire (paper)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1 |
HC2W(papur) | “Holiadur (papur) y Cartref (Parhad)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1 |
I2(paper) | “Individual Questionnaire (paper)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1 |
I2W(papur) | “Holiadur (papur) i Unigolion” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1 |
CE2(paper) | “Communal Establishment Questionnaire (paper)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1 |
CE2W(papur) | “Holiadur (papur) i Sefydliadau Cymunedol” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1 |
3
Yn fersiwn Gymraeg y Rheoliadau hyn—
a
y gair Cymraeg sy’n cyfateb i “household” yw “aelwyd”, a
b
y geiriau Cymraeg sy’n cyfateb i “householder” yw “deiliad aelwyd”.
4
Yn fersiynau Cymraeg yr holiaduron—
a
y geiriau Cymraeg sy’n cyfateb i “household” yw “cartref” ac “aelodau o’r cartref” (yn ôl y digwydd), a
b
y gair Cymraeg sy’n cyfateb i “householder” yw “deiliad y cartref”.
5
Nid yw person rhagnodedig yn torri’r Rheoliadau hyn drwy ddychwelyd fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o holiadur gyda’r ddwy fersiwn wedi eu llenwi’n rhannol, ar yr amod bod yr wybodaeth a ddarperir yn yr holiaduron yn gyfystyr â ffurflen gyfan.
Rhaniadau gweinyddol a phenodiadau4
1
At ddibenion y cyfrifiad, rhaid i’r Awdurdod—
a
rhannu Cymru yn ardaloedd cyfrifiad a phenodi rheolwr gweithrediadau ardal i bob ardal gyfrifiad;
b
rhannu pob ardal gyfrifiad yn—
i
ardaloedd cydgysylltwyr cyfrifiad a phenodi cydgysylltydd cyfrifiad i bob ardal cydgysylltydd cyfrifiad;
ii
ardaloedd cydgysylltwyr sefydliadau cymunedol a phenodi cydgysylltydd sefydliadau cymunedol i bob ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol;
c
rhannu pob ardal cydgysylltydd cyfrifiad a phob ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol yn ddosbarthau cyfrifo a phenodi cynifer o swyddogion cyfrifiad a swyddogion sefydliadau cymunedol y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben cynnal y cyfrifiad yn y dosbarthau hynny, yn unol â Deddf 1920 a’r Rheoliadau hyn.
2
Caiff yr Awdurdod hefyd benodi cynifer o bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn cynnal y cyfrifiad.
3
Rhaid i’r personau a benodir o dan baragraffau (1) a (2) gyflawni’r dyletswyddau a neilltuir iddynt o dan Ddeddf 1920 a’r Rheoliadau hyn.
Holiaduron i’w defnyddio wrth gynnal y cyfrifiad5
1
At ddibenion y cyfrifiad rhaid i’r Awdurdod sicrhau—
a
bod holiaduron ar-lein ar gael yn electronig ac yn ddwyieithog drwy godau mynediad unigryw ac yn cynnwys y cwestiynau a’r opsiynau ymateb a nodir (fel y bo’n briodol) yn Rhannau 1, 2 a 3 o Atodlen 2 a’r swyddogaethau a’r nodweddion a ddisgrifir yn Rhan 8 o Atodlen 2;
b
bod holiaduron papur dwyieithog yn cael eu llunio ar y ffurf a nodir (fel y bo’n briodol) yn Rhannau 4, 5, 6 a 7 o Atodlen 2.
2
Rhaid i bob holiadur i’w ddefnyddio yn y cyfrifiad gynnwys rhif adnabod holiadur.
Dyletswyddau mewn perthynas â llenwi ffurflenni6
1
Rhaid i berson rhagnodedig, wrth lenwi ffurflen fel sy’n ofynnol gan Orchymyn y Cyfrifiad—
a
llenwi’r holiadur perthnasol a nodir ym mharagraff (3), yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar gyfer yr holiadur hwnnw;
b
cyflwyno’r holiadur sydd wedi ei lenwi i’r Awdurdod yn unol â’r Rheoliadau hyn.
2
Mae holiadur wedi ei gyflwyno i’r Awdurdod yn unol â’r Rheoliadau hyn—
a
mewn cysylltiad â holiadur ar-lein, pan yw’r Awdurdod wedi ei gael yn electronig, neu
b
mewn cysylltiad â holiadur papur, pan yw wedi dod i law penodai yn bersonol, neu pan yw wedi ei gael drwy’r post gan yr Awdurdod neu benodai.
3
Yr holiadur i’w llenwi a’i gyflwyno yn unol â’r Rheoliadau hyn gan berson rhagnodedig a grybwyllir yng ngholofn (1) o’r tabl yn Atodlen 1 yw’r holiadur ar-lein neu’r holiadur papur y cyfeirir ato yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) neu (3).
4
Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n atal person rhagnodedig sy’n ddeiliad aelwyd, neu unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y deiliad aelwyd hwnnw yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad, rhag llenwi ffurflen fel sy’n ofynnol gan Orchymyn y Cyfrifiad—
a
drwy lenwi a chyflwyno holiadur papur a hefyd, mewn cysylltiad ag aelodau ychwanegol o aelwyd y deiliad aelwyd hwnnw, drwy lenwi a chyflwyno holiadur ar-lein, neu
b
drwy lenwi a chyflwyno holiadur ar-lein a hefyd, mewn cysylltiad ag aelodau ychwanegol o aelwyd y deiliad aelwyd hwnnw, drwy lenwi a chyflwyno holiadur papur.
5
Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n atal person sy’n llenwi ffurflen o dan erthygl 5(9)(a)(i) neu (b) o Orchymyn y Cyfrifiad ar ran person arall rhag llenwi’r ffurflen honno—
a
drwy lenwi a chyflwyno holiadur papur a hefyd, mewn cysylltiad â’r person arall hwnnw, drwy lenwi a chyflwyno holiadur ar-lein, neu
b
drwy lenwi a chyflwyno holiadur ar-lein a hefyd, mewn cysylltiad â’r person arall hwnnw, drwy lenwi a chyflwyno holiadur papur.
Y system olrhain holiaduron, yr offeryn rheoli gwaith maes a dyfeisiau electronig y cyfrifiad7
1
Rhaid i’r Awdurdod ddarparu system olrhain holiaduron ar gyfer rheoli’r cyfrifiad ac ar gyfer cadw cofnodion ynghylch—
a
rhifau adnabod holiaduron,
b
codau mynediad unigryw sy’n rhoi mynediad i’r fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r holiadur fel a ddewisir gan y person rhagnodedig,
c
codau mynediad unigryw newydd,
d
cyfeiriadau aelwydydd a sefydliadau cymunedol,
e
yr aelwydydd neu’r sefydliadau cymunedol y mae pecynnau cyfrifiad wedi eu hanfon iddynt drwy’r post neu wedi eu danfon iddynt yn unol â’r Rheoliadau hyn, neu’r aelwydydd neu’r sefydliadau cymunedol y mae ymweliadau i’w cynnal â hwy,
f
amgylchiadau’r danfoniad ar gyfer pob pecyn cyfrifiad a ddanfonwyd gan swyddog cyfrifiad neu swyddog sefydliadau cymunedol,
g
y dyddiad pan ddaeth pob holiadur wedi ei lenwi a gafwyd gan yr Awdurdod i law, a’r modd y’i cafwyd,
h
amlgeisiadau am becynnau cyfrifiad neu godau mynediad unigryw newydd gan yr un person rhagnodedig,
i
dychwelyd mwy nag un holiadur wedi ei lenwi mewn perthynas â’r un person rhagnodedig,
j
y dyddiad pan wneir unrhyw gofnod yn unol â rheoliad 11(8)(a), 13(11)(b) neu 16(5)(b) a’r person rhagnodedig y’i gwnaed mewn cysylltiad ag ef, a
k
unrhyw wybodaeth arall y mae’r Awdurdod yn ystyried y gall gynorthwyo o ran cynnal y cyfrifiad.
2
Rhaid i’r Awdurdod ddarparu offeryn rheoli gwaith maes i’w ddefnyddio wrth gynnal y cyfrifiad, gan gynnwys er mwyn—
a
creu camau gweithredu y mae’n ofynnol i benodeion eu cymryd;
b
nodi cyfeiriadau eiddo i benodeion ymweld â hwy;
c
galluogi cofnodi gwybodaeth ar gyfer y system olrhain holiaduron.
3
Rhaid i’r Awdurdod ddarparu dyfeisiau electronig digonol (a elwir yn “dyfeisiau electronig y cyfrifiad” yn y Rheoliadau hyn) y gall pob penodai y mae angen iddo gael mynediad i’r offeryn rheoli gwaith maes eu defnyddio i wneud hynny a chael cyfarwyddiadau yn electronig.
Paratoi pecynnau cyfrifiad8
1
Rhaid i’r Awdurdod baratoi cynifer o becynnau cyfrifiad y cyfeirir atynt ym mharagraffau (3) i (5) y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad.
2
Rhaid i gynnwys pob pecyn cyfrifiad gael ei roi mewn amlen wedi ei selio y gall unrhyw gyfeiriad wedi ei argraffu gael ei weld drwyddi.
3
Rhaid i bob un o’r pecynnau ar-lein i aelwydydd, y pecynnau ar-lein i unigolion a’r pecynnau ar-lein i sefydliadau cymunedol gynnwys—
a
yn eu trefn, cod mynediad unigryw ar gyfer holiadur H2(online) ac H2W(ar-lein), cod mynediad unigryw ar gyfer holiadur I2(online) ac I2W(ar-lein) a chod mynediad unigryw ar gyfer holiadur CE2(online) ac CE2W(ar-lein), a
b
unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r Awdurdod yn ystyried y gall gynorthwyo o ran llenwi a chyflwyno’r holiadur y mae’r pecyn hwnnw yn ymwneud ag ef.
4
Rhaid i bob un o’r pecynnau papur i aelwydydd, y pecynnau papur i unigolion a’r pecynnau papur i sefydliadau cymunedol gynnwys—
a
yn eu trefn, copi o holiadur H2(paper) ac H2W (papur), copi o holiadur I2(paper) ac I2W(papur) a chopi o holiadur CE2(paper) ac CE2W(papur),
b
yn eu trefn, cod mynediad unigryw ar gyfer holiadur H2(online) ac H2W(ar-lein), cod mynediad unigryw ar gyfer holiadur I2(online) ac I2W(ar-lein) a chod mynediad unigryw ar gyfer holiadur CE2(online) ac CE2W(ar-lein),
c
unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r Awdurdod yn ystyried y gall gynorthwyo o ran llenwi a chyflwyno’r holiaduron y mae’r pecynnau hynny yn ymwneud â hwy, a
d
amlen wedi ei thalu ymlaen llaw.
5
Rhaid i’r pecynnau aelwyd (parhad) gynnwys—
a
copi o holiadur HC2(paper) a chopi o holiadur HC2W(papur),
b
unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r Awdurdod yn ystyried y gall gynorthwyo o ran llenwi a chyflwyno’r holiadur, ac
c
amlen wedi ei thalu ymlaen llaw.
Anfon pecynnau i aelwydydd ac at etholwyr drwy’r post9
1
Caiff yr Awdurdod anfon pecyn aelwyd drwy’r post i’r aelwydydd hynny yn y gofrestr cyfeiriadau, a phecyn unigolyn at yr etholwyr hynny yn y gofrestr cyfeiriadau, y mae’r Awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad cyn diwrnod y cyfrifiad.
2
Os nad yw’r Awdurdod yn anfon pecyn aelwyd neu becyn unigolyn drwy’r post o dan baragraff (1) rhaid iddo, yn lle hynny, ei gwneud yn ofynnol i’r cydgysylltydd cyfrifiad perthnasol drefnu danfon pecyn aelwyd neu becyn unigolyn â llaw i’r aelwyd honno neu at yr etholwr hwnnw (yn ôl y digwydd) yn unol â rheoliad 10.
3
Mewn cysylltiad â phob pecyn cyfrifiad a anfonir drwy’r post yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r Awdurdod sicrhau y gwneir cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos y cyfeiriad yr anfonwyd y pecyn cyfrifiad iddo.
Danfon pecynnau i aelwydydd ac at etholwyr â llaw10
1
Rhaid i’r Awdurdod ddyroddi i bob cydgysylltydd cyfrifiad—
a
dyfais gyfrifiad electronig i’w defnyddio ym mhob dosbarth cyfrifo o fewn ardal cydgysylltydd cyfrifiad y cydgysylltydd cyfrifiad hwnnw;
b
unrhyw becynnau aelwyd a phecynnau unigolyn y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad;
c
rhestr, sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn rheoli gwaith maes, o gyfeiriadau pob aelwyd a phob etholwr yn y gofrestr cyfeiriadau sydd yn ardal cydgysylltydd cyfrifiad y cydgysylltydd cyfrifiad hwnnw y mae pecynnau aelwyd a phecynnau unigolyn (fel y bo’n briodol) i’w danfon â llaw iddynt yn unol â rheoliad 9(2);
d
unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall y mae’n ystyried eu bod neu ei bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad.
2
Rhaid i bob cydgysylltydd cyfrifiad—
a
dynodi swyddog cyfrifiad i ddanfon pecynnau aelwyd a phecynnau unigolyn i bob dosbarth cyfrifo;
b
rhoi i’r swyddog cyfrifiad hwnnw yr eitemau hynny ym mharagraff (1)(a) i (d), a niferoedd digonol ohonynt, y mae eu hangen ar y swyddog cyfrifiad er mwyn cyflawni dyletswyddau’r swyddog cyfrifiad hwnnw o dan y Rheoliadau hyn.
3
Rhaid i bob swyddog cyfrifiad a ddynodir o dan baragraff (2)(a) wedyn ddanfon—
a
pecyn aelwyd neu becyn unigolyn i bob aelwyd neu etholwr (yn ôl y digwydd) y mae ei chyfeiriad neu ei gyfeiriad wedi ei gynnwys yn y rhestr o gyfeiriadau y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(c) ac sydd o fewn dosbarth cyfrifo’r swyddog cyfrifiad hwnnw;
b
pecynnau aelwyd a phecynnau unigolyn (fel y bo’n briodol) i unrhyw aelwydydd eraill neu at unrhyw etholwyr eraill sydd wedi eu nodi gan y swyddog cyfrifiad yn nosbarth cyfrifo’r swyddog cyfrifiad hwnnw.
4
Mae dyletswydd swyddog cyfrifiad i ddanfon pecyn cyfrifiad o dan baragraff (3) wedi ei bodloni mewn perthynas â phob aelwyd os yw’r swyddog cyfrifiad yn traddodi pecyn aelwyd i’r deiliad aelwyd neu’r cyd-ddeiliad aelwyd, ac mewn perthynas â phob etholwr, os yw’r swyddog cyfrifiad yn traddodi pecyn unigolyn i’r etholwr neu, yn y naill achos neu’r llall, pan na fo person o’r fath ar gael, os yw’r swyddog cyfrifiad—
a
yn gadael y pecyn cyfrifiad gyda pherson cyfrifol sy’n honni ei fod yn gweithredu ar ran y deiliad aelwyd, y cyd-ddeiliad aelwyd neu’r etholwr (yn ôl y digwydd), neu
b
pan na fo unigolyn cyfrifol o’r fath ar gael, yn gadael y pecyn cyfrifiad yn y cyfeiriad perthnasol sydd wedi ei gynnwys yn yr offeryn rheoli gwaith maes, neu’n ei anfon drwy’r post i’r cyfeiriad hwnnw neu, os yw’n cael ei gyfarwyddo i wneud hynny gan y cydgysylltydd cyfrifiad, i gyfeiriad arall a ddarperir gan y cydgysylltydd cyfrifiad.
5
Rhaid i bob swyddog cyfrifiad—
a
gwneud cofnod yn y ddyfais gyfrifiad electronig o’r canlynol—
i
pob pecyn aelwyd a phecyn unigolyn a ddanfonwyd yn unol â pharagraff (3)(a) neu (b), a
ii
unrhyw aelwyd ychwanegol neu etholwr ychwanegol y mae’r swyddog cyfrifiad wedi danfon pecyn cyfrifiad iddi neu ato o dan baragraff (3)(b);
b
galluogi’r cydgysylltydd cyfrifiad i gael mynediad i’r wybodaeth a gofnodir yn nyfais gyfrifiad electronig y swyddog cyfrifiad neu’r wybodaeth sydd ar gael drwy’r ddyfais honno.
6
Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n atal swyddog cyfrifiad rhag cael ei ddynodi i ddanfon pecynnau i fwy nag un dosbarth cyfrifo.
Danfon pecynnau i sefydliadau cymunedol â llaw11
1
Rhaid i’r Awdurdod ddyroddi’r canlynol i bob cydgysylltydd sefydliadau cymunedol—
a
dyfeisiau electronig digonol i’w defnyddio ym mhob dosbarth cyfrifo o fewn ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol y cydgysylltydd sefydliadau cymunedol hwnnw;
b
unrhyw becynnau sefydliadau cymunedol a phecynnau unigolyn y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad;
c
rhestr, sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn rheoli gwaith maes, o gyfeiriadau pob sefydliad cymunedol yn y gofrestr cyfeiriadau sydd yn ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol y cydgysylltydd sefydliadau cymunedol hwnnw;
d
unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall y mae’n ystyried eu bod neu ei bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad.
2
Rhaid i bob cydgysylltydd sefydliadau cymunedol—
a
dynodi swyddog sefydliadau cymunedol i ddanfon pecynnau sefydliadau cymunedol a phecynnau unigolyn i bob dosbarth cyfrifo;
b
cyflenwi i bob swyddog sefydliadau cymunedol a ddynodir o dan baragraff (2)(a) yr eitemau hynny ym mharagraff (1)(a) i (d), a niferoedd digonol ohonynt, y mae eu hangen ar y swyddog sefydliadau cymunedol er mwyn cyflawni dyletswyddau’r swyddog sefydliadau cymunedol hwnnw o dan y Rheoliadau hyn.
3
Rhaid i bob cydgysylltydd sefydliadau cymunedol a ddynodir o dan baragraff (2)(a) ddanfon—
a
pecyn sefydliadau cymunedol i bob sefydliad cymunedol y mae ei gyfeiriad wedi ei gynnwys yn y rhestr o gyfeiriadau y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(c) ac sydd o fewn dosbarth cyfrifo’r swyddog sefydliadau cymunedol hwnnw,
b
nifer digonol o becynnau unigolyn i bob un o’r sefydliadau cymunedol hynny at ddiben y cyfrifiad, ac
c
pecynnau sefydliadau cymunedol a phecynnau unigolyn i unrhyw sefydliadau cymunedol eraill a nodir gan y swyddog sefydliadau cymunedol yn nosbarth cyfrifo’r swyddog sefydliadau cymunedol.
4
Mae dyletswydd swyddog sefydliadau cymunedol i ddanfon pecynnau cyfrifiad o dan baragraff (3) wedi ei bodloni mewn perthynas â phob sefydliad cymunedol os yw’r swyddog sefydliadau cymunedol yn danfon y pecynnau cyfrifiad at y person a chanddo ofal am y tro dros y sefydliad cymunedol neu, pan na fo person o’r fath ar gael, os yw’r swyddog sefydliadau cymunedol—
a
yn gadael y pecynnau cyfrifiad gyda pherson cyfrifol sy’n honni ei fod yn gweithredu ar ran y person hwnnw a chanddo ofal am y tro dros y sefydliad cymunedol, neu
b
pan na fo unigolyn cyfrifol o’r fath ar gael, yn gadael y pecynnau cyfrifiad yn y cyfeiriad perthnasol sydd wedi ei gynnwys yn yr offeryn rheoli gwaith maes.
5
Caiff y cydgysylltydd sefydliadau cymunedol gyfarwyddo’r swyddog sefydliadau cymunedol i ddosbarthu cynifer o’r pecynnau unigolyn ag a ddanfonir o dan baragraff (3) i’r personau hynny sy’n breswylwyr arferol yn y sefydliad cymunedol ac y mae’n ymddangos i’r swyddog sefydliadau cymunedol eu bod yn alluog i lenwi’r holiadur sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn.
6
Os yw’n ymddangos i’r swyddog sefydliadau cymunedol nad yw preswylydd arferol yn alluog i lenwi’r holiadur hwnnw, caiff y swyddog sefydliadau cymunedol draddodi’r pecyn unigolyn i berthynas i’r preswylydd arferol, neu i berson arall, sydd wedi cytuno i lenwi’r holiadur ar ran y preswylydd arferol yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad.
7
Caiff swyddog sefydliadau cymunedol ofyn i’r person a chanddo ofal am y tro dros sefydliad cymunedol ddosbarthu pecynnau unigolyn mewn perthynas â’r sefydliad cymunedol hwnnw, yn yr un modd ag a nodir ym mharagraffau (5) a (6).
8
Rhaid i bob swyddog sefydliadau cymunedol—
a
gwneud cofnod yn y ddyfais gyfrifiad electronig o’r canlynol—
i
pob pecyn sefydliadau cymunedol a phob pecyn unigolyn sydd wedi eu danfon yn unol â pharagraff (3)(a), (b) neu (c),
ii
unrhyw sefydliadau cymunedol ychwanegol y mae’r swyddog sefydliadau cymunedol wedi danfon pecynnau sefydliadau cymunedol a phecynnau unigolyn iddynt o dan baragraff (3)(c), a
iii
casglu holiaduron papur;
b
galluogi’r cydgysylltydd sefydliadau cymunedol i gael mynediad i’r wybodaeth yn nyfais gyfrifiad electronig y swyddog sefydliadau cymunedol neu’r wybodaeth sydd ar gael drwy’r ddyfais honno.
9
Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n atal swyddog sefydliadau cymunedol rhag cael ei ddynodi i ddanfon pecynnau i fwy nag un dosbarth cyfrifo.
Cais i gael pecynnau cyfrifiad a chodau mynediad unigryw newydd12
1
Os yw’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni, rhaid i’r Awdurdod ddarparu unrhyw becyn cyfrifiad neu god mynediad unigryw newydd i unrhyw berson rhagnodedig sy’n gofyn amdano.
2
Yr amodau hynny yw fel a ganlyn—
a
ym marn yr Awdurdod, mae’r pecyn cyfrifiad neu’r cod mynediad unigryw newydd yn berthnasol i’r person rhagnodedig hwnnw, a
b
mae’r person sy’n gwneud y cais yn darparu i’r Awdurdod y cyfeiriad y mae’r person (neu’r personau) rhagnodedig y mae’r holiadur i’w lenwi mewn cysylltiad ag ef (neu â hwy) yn breswylydd arferol ynddo (ac yn y ddarpariaeth hon, ystyr “yr holiadur” yw’r holiadur sy’n ymwneud â’r pecyn cyfrifiad neu’r cod mynediad unigryw newydd y gofynnwyd amdano).
3
Rhaid i’r Awdurdod ddarparu unrhyw becyn cyfrifiad y gofynnir amdano o dan baragraff (1) i’r cyfeiriad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) a chaiff anfon pecynnau cyfrifiad o’r fath drwy’r post neu eu danfon â llaw i’r cyfeiriad hwnnw.
4
Caiff yr Awdurdod ddarparu cod mynediad unigryw newydd o dan baragraff (1) drwy—
a
anfon y cod drwy’r post, neu ei ddanfon â llaw (ac yn y naill achos neu’r llall, rhaid i’r Awdurdod anfon neu ddanfon y cod mynediad unigryw newydd i’r cyfeiriad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b)), neu
b
anfon y cod yn uniongyrchol i rif ffôn symudol a ddarparwyd gan y person sy’n gwneud y cais i gael y cod mynediad unigryw newydd.
Dychwelyd holiaduron aelwydydd ac etholwyr13
1
Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn aelwyd ar-lein wedi ei anfon neu ei ddanfon ato, neu y derbyniwyd danfoniad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—
a
defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i holiadur H2(online) neu H2W(ar-lein), a
b
llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.
2
Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn papur i aelwydydd neu becyn aelwyd (parhad) wedi ei anfon neu ei ddanfon ato, neu y derbyniwyd danfoniad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—
a
llenwi, fel y bo’n briodol, gopi o’r holiadur H2(paper), H2W(papur), HC2(paper) neu HC2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn a’i roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post. Caniateir i holiaduron o’r fath gael eu hanfon i’r Awdurdod drwy’r post yn yr un amlen wedi ei thalu ymlaen llaw, neu
b
defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir i gael mynediad i’r holiadur H2(online) neu H2W(ar-lein), a llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn electronig yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.
3
Mae paragraff (2) (ac nid paragraff (1)) yn gymwys i berson rhagnodedig sydd wedi cael pecyn ar-lein i aelwydydd ond sydd hefyd wedi gofyn am becyn papur i aelwydydd.
4
Rhaid i bob etholwr sydd wedi gofyn am becyn ar-lein i unigolion ac wedi ei gael, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—
a
defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein), a
b
llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.
5
Rhaid i bob etholwr sydd wedi gofyn am becyn papur i unigolion ac wedi ei gael, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—
a
llenwi’r copi o holiadur I2(paper) neu I2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn, ei roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post, neu
b
defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i’r holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein), a llenwi a chyflwyno holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein) yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.
6
Rhaid i bob etholwr sicrhau bod un o’r holiaduron a ganlyn: H2(online) neu H2W(ar-lein), H2(paper) neu H2W(papur), HC2(paper) neu HC2W(papur), I2(online) neu I2W(ar-lein), I2(paper) neu I2W(papur), wedi ei lenwi mewn cysylltiad ag ef ei hunan.
7
Pan fo holiadur H2(online) neu H2W(ar-lein), holiadur H2(paper) neu H2W(papur), neu holiadur HC2(paper) neu HC2W(papur) wedi ei lenwi mewn cysylltiad ag etholwr, caiff yr etholwr hwnnw ddewis cydymffurfio â pharagraff (4) neu (5) (ond nid yw’n ofynnol iddo wneud hynny).
8
Mae holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein), neu holiadur I2(paper) neu I2W(papur) a gyflwynir gan etholwr yn drech na holiadur H2(online) neu H2W(ar-lein), holiadur H2(paper) neu H2W(papur), neu holiadur HC2(paper) neu HC2W(papur), mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth am yr etholwr hwnnw.
9
Cyn gynted â phosibl ar ôl i bob holiadur H2(online), H2W(ar-lein), H2(paper), H2W(papur), HC2(paper), HC2W(papur), I2(online), I2W(ar-lein), I2(paper) neu I2W(papur) wedi ei lenwi ddod i law’r Awdurdod, rhaid i’r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod yr holiadur perthnasol wedi ei ddychwelyd.
10
Pan fo penodai wedi ei fodloni, ar ôl siarad â pherson rhagnodedig at ddibenion erthygl 5(1) neu (3) o Orchymyn y Cyfrifiad, nad yw’r person rhagnodedig—
a
yn alluog i lenwi a dychwelyd holiadur, na
b
yn gallu awdurdodi unrhyw berson i weithredu ar ran y person rhagnodedig, wedyn mae paragraff (11) yn gymwys.
11
O ran y penodai—
a
caiff, yn unol â chyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, wneud ymholiadau ynghylch y manylion y byddai Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r person rhagnodedig y cyfeirir ato ym mharagraff (10) eu darparu, a
b
rhaid iddo gofnodi’r atebion i’r ymholiadau hynny y caniateir iddynt gael eu defnyddio at ddiben y cyfrifiad.
12
Cyn gynted â phosibl ar ôl i benodai gofnodi’r atebion yn unol â pharagraff (11)(b), rhaid i’r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod cofnod o’r fath wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r person rhagnodedig hwnnw.
Dychwelyd holiaduron sefydliadau cymunedol14
1
Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn ar-lein i sefydliadau cymunedol wedi ei anfon neu ei ddanfon ato mewn sefydliad cymunedol, neu y derbyniwyd danfoniad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—
a
defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i holiadur CE2(online) neu CE2W(ar-lein), a
b
llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.
2
Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn papur i sefydliadau cymunedol wedi ei anfon neu ei ddanfon ato mewn sefydliad cymunedol, neu y derbyniwyd danfoniad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—
a
llenwi’r copi o holiadur CE2(paper) neu CE2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn, ei roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir, a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post, neu
b
defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir i gael mynediad i holiadur CE2(online) neu CE2W(ar-lein) a llenwi’r holiadur a’i gyflwyno wedi ei lenwi yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.
3
Mae paragraff (2) (ac nid paragraff (1)) yn gymwys i berson rhagnodedig sydd wedi cael pecyn ar-lein i sefydliadau cymunedol ond sydd hefyd wedi gofyn am becyn papur i sefydliadau cymunedol.
4
Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn unigolyn wedi ei draddodi iddo o dan reoliad 11(5), (6) neu (7), drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—
a
defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein) a llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein,
b
llenwi’r copi o holiadur I2(paper) neu I2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn, ei roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post, neu
c
os yw’n cael ei gyfarwyddo i wneud hynny gan y swyddog sefydliadau cymunedol, ddanfon yr holiadur I2(paper) neu I2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn ac sydd wedi ei lenwi at y person a chanddo ofal am y tro dros y sefydliad cymunedol neu at y swyddog sefydliadau cymunedol.
5
Rhaid i’r person a chanddo ofal am y tro dros y sefydliad cymunedol y traddodir holiadur I2(paper) neu I2W(papur) wedi ei lenwi iddo gan berson rhagnodedig (pa un ai o dan baragraff (4)(c) neu fel arall)—
a
sicrhau bod yr holiadur wedi ei roi mewn amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a heb oedi, ei anfon i’r Awdurdod drwy’r post, neu
b
danfon yr holiadur at y swyddog sefydliadau cymunedol.
6
Mewn cysylltiad â phob holiadur papur wedi ei lenwi a gesglir gan y swyddog sefydliadau cymunedol yn unol â’r rheoliad hwn, rhaid i’r swyddog sefydliadau cymunedol wneud cofnod yn nyfais gyfrifiad electronig y swyddog sefydliadau cymunedol.
Cynnal y cyfrifiad ar gyfer personau yng Ngrŵp G15
Rhaid i gydgysylltydd cyfrifiad, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, wneud trefniadau yn ardal cydgysylltydd cyfrifiad y cydgysylltydd cyfrifiad hwnnw—
a
i holiadur CE2(online) neu CE2W(ar-lein), neu holiadur CE2(paper) neu CE2W(papur) gael ei lenwi a’i gyflwyno mewn cysylltiad ag unrhyw grŵp o bersonau rhagnodedig sy’n llenwi holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein), neu holiadur I2(paper) neu I2W(papur) yn unigol o dan baragraff (b);
b
i becyn papur i unigolion gael ei draddodi i’r personau rhagnodedig yng Ngrŵp G yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad ac i bob person rhagnodedig naill ai—
i
defnyddio’r cod mynediad unigryw sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn i gael mynediad i holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein) a llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein, neu
ii
llenwi’r copi o holiadur I2(paper) neu I2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn, ei roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post; neu ei draddodi i’r person sy’n llenwi holiadur o dan baragraff (a).
Y weithdrefn pan na fo’r Awdurdod yn cael holiadur neu pan fo’n cael holiadur anghyflawn16
1
Rhaid i’r Awdurdod—
a
gwirio’r cofnodion yn y system olrhain holiaduron a chynhyrchu rhestr o gyfeiriadau ar gyfer pob ardal cydgysylltydd cyfrifiad ac ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol y mae’r Awdurdod wedi anfon neu wedi danfon pecyn cyfrifiad neu god mynediad unigryw newydd iddynt ond nad yw’r Awdurdod wedi cael holiadur wedi ei lenwi mewn cysylltiad â hwy yn unol â’r Rheoliadau hyn;
b
darparu i bob cydgysylltydd cyfrifiad a phob cydgysylltydd sefydliadau cymunedol y rhestr o gyfeiriadau y cyfeirir ati yn is-baragraff (a) sy’n berthnasol iddynt.
2
Rhaid i bob cydgysylltydd cyfrifiad a phob cydgysylltydd sefydliadau cymunedol drefnu yn eu tro i swyddogion cyfrifiad a swyddogion sefydliadau cymunedol ddefnyddio’r rhestr o gyfeiriadau y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b) i wneud unrhyw ymholiadau y mae’r swyddogion hynny yn meddwl eu bod yn rhesymol i unrhyw berson er mwyn cael y manylion y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i berson rhagnodedig eu darparu.
3
Pan fo swyddog cyfrifiad neu swyddog sefydliadau cymunedol wedi gwneud ymholiadau o dan baragraff (2) i berson rhagnodedig nad yw’r Awdurdod wedi cael holiadur mewn cysylltiad ag ef, caiff y swyddog—
a
casglu holiadur wedi ei lenwi,
b
annog y person hwnnw i lenwi holiadur a’i gyflwyno i’r Awdurdod yn unol â’r Rheoliadau hyn,
c
cytuno y caniateir i’r holiadur wedi ei lenwi gael ei gyflwyno drwy’r post gan ddefnyddio’r amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir,
d
gwneud unrhyw drefniadau ar gyfer casglu’r holiadur papur y mae’r swyddog yn meddwl eu bod yn addas, neu
e
darparu cod mynediad unigryw newydd neu holiadur papur arall.
4
Rhaid i’r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron pa bryd bynnag y daw holiadur wedi ei lenwi i’w law ar ôl i’r camau o dan baragraffau (2) a (3) gael eu cymryd.
5
Pan fo holiadur yn dod i law’r Awdurdod ond nad yw’r holiadur yn cynnwys rhai o’r manylion neu’r holl fanylion yr oedd Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r person rhagnodedig eu darparu, wedyn o ran penodai—
a
caiff wneud, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, unrhyw ymholiadau y mae’r penodai yn meddwl eu bod yn rhesymol i unrhyw berson er mwyn cael y manylion coll, a
b
rhaid iddo gofnodi’r atebion i’r ymholiadau hynny y caniateir iddynt gael eu defnyddio at ddiben y cyfrifiad.
6
Cyn gynted â phosibl ar ôl i benodai gofnodi’r atebion yn unol â pharagraff (5)(b), rhaid i’r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod cofnod o’r fath wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r person rhagnodedig hwnnw.
Rhoi gwybodaeth17
1
Rhaid i bob person y mae ffurflen i’w llenwi mewn cysylltiad ag ef o dan Orchymyn y Cyfrifiad, i’r graddau y mae’r person hwnnw yn gallu gwneud hynny, roi i’r person rhagnodedig sy’n atebol am lenwi’r ffurflen unrhyw wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, y gall fod ei hangen yn rhesymol ar y person rhagnodedig at ddiben cyflawni rhwymedigaethau’r person rhagnodedig hwnnw o dan y Rheoliadau hyn.
2
Rhaid i bob person rhagnodedig roi i unrhyw benodai yr wybodaeth honno, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, y gall fod ei hangen yn rhesymol ar y penodai er mwyn cyflawni dyletswyddau’r penodai o dan y Rheoliadau hyn.
3
Ni chaiff person, y rhoddir gwybodaeth bersonol iddo yn unol â’r Rheoliadau hyn, heb awdurdod cyfreithlon—
a
defnyddio’r wybodaeth honno (ac eithrio at ddiben cyflawni rhwymedigaeth o dan y Rheoliadau hyn), na
b
ei chyhoeddi na’i chyfathrebu i unrhyw berson arall (ac eithrio at ddiben cyflawni rhwymedigaeth o dan y Rheoliadau hyn).
Cadw holiaduron, cofnodion a dogfennau’n ddiogel18
1
Rhaid i unrhyw berson sydd, pa un ai ar ran y person hwnnw ei hunan neu ar ran unrhyw berson arall, â holiaduron neu â chofnodion a dogfennau eraill o dan ei ofal (gan gynnwys unrhyw gofnodion a dogfennau a gaiff eu storio ar ddyfais gyfrifiad electronig neu unrhyw gofnodion a dogfennau y ceir mynediad iddynt drwy ddyfais gyfrifiad electronig) sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’r cyfrifiad, gadw’r holiaduron, y cofnodion a’r dogfennau hynny yn y modd hwnnw sy’n atal unrhyw berson nad yw wedi ei awdurdodi rhag cael mynediad iddynt.
2
Pan fo unrhyw benodai yn cael ei gyfarwyddo i wneud hynny gan yr Awdurdod, rhaid iddo anfon i’r Awdurdod pob holiadur, cofnod a dogfen sydd ym meddiant y penodai hwnnw, gan gynnwys unrhyw gofnodion a dogfennau a gaiff eu storio ar ddyfais gyfrifiad electronig neu unrhyw gofnodion a dogfennau y ceir mynediad iddynt drwy ddyfais gyfrifiad electronig.
3
Rhaid i’r Awdurdod drefnu i’r canlynol gael eu storio’n ddiogel—
a
holiaduron wedi eu llenwi,
b
unrhyw gofnodion a dogfennau papur neu electronig eraill sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’r cyfrifiad, ac
c
unrhyw ddyfeisiau electronig y cyfrifiad tra bo’r dyfeisiau hynny yn cynnwys gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’r cyfrifiad neu y mae modd cael mynediad i wybodaeth bersonol o’r fath o hyd drwyddynt.
Cadw dyfeisiau electronig y cyfrifiad yn ddiogel19
Rhaid i unrhyw berson sy’n cael dyfais gyfrifiad electronig—
a
defnyddio’r ddyfais gyfrifiad electronig yn y modd hwnnw sy’n atal unrhyw berson nad yw wedi ei awdurdodi rhag cael mynediad i’r ddyfais,
b
sicrhau bod y ddyfais yn cael ei storio’n ddiogel ar bob adeg pan nad yw’n cael ei defnyddio yn y modd hwnnw sy’n atal unrhyw berson nad yw wedi ei awdurdodi rhag cael mynediad i’r ddyfais, ac
c
gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau gan yr Awdurdod ynghylch pryd neu at bwy i ddychwelyd y ddyfais.
Datganiadau statudol ac ymgymeriadau20
1
Rhaid i bob penodai y rhoddir caniatâd iddo gan yr Awdurdod i gael mynediad i’r storfeydd data electronig wneud datganiad statudol sy’n cynnwys y geiriau a nodir yn Atodlen 3, yn unol â’r trefniadau a wneir gan yr Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl penodiad y penodai gan yr Awdurdod neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, pa un bynnag yw’r diweddaraf.
2
Caiff unrhyw gyflogai i’r Awdurdod (os yw’n cael ei gyfarwyddo’n addas gan yr Awdurdod i wneud hynny) gymryd y datganiad statudol y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
3
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i bob penodai nad yw’n ofynnol iddo gwblhau datganiad statudol o dan baragraff (1) gwblhau ffurflen yr ymgymeriad a nodir yn Atodlen 4, yn unol â’r trefniadau a wneir gan yr Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl penodiad y penodai neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, pa un bynnag yw’r diweddaraf.
4
Nid yw’n ofynnol i unrhyw benodai a benodwyd gan yr Awdurdod cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, ac a gwblhaodd ffurflen ymgymeriad a chanddi’r un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r ffurflen yn Atodlen 4, gwblhau ymgymeriad arall yn rhinwedd y rheoliad hwn.
5
At ddibenion paragraff (1), ystyr “storfeydd data electronig” yw’r systemau electronig hynny y mae’r Awdurdod yn eu defnyddio i storio’r manylion a gofnodir yn yr holl holiaduron y mae’r Awdurdod yn eu cael.