2020 Rhif 514 (Cy. 121)
Gorchymyn Ceisiadau Cynllunio (Addasiadau a Datgymhwyso Dros Dro) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 61Z(8) a (9), 62(11), 62R a 333(4B) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901, a thrwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 62(1) a (2), 71(1), (2)(a) a (2A), a 333(7) o’r Ddeddf honno2 sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy3 (fel y’u cymhwysir yn achos adran 62(1) gydag addasiadau gan Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 20164), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ceisiadau Cynllunio (Addasiadau a Datgymhwyso Dros Dro) (Cymru) (Coronafeirws) 2020.
2
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Mai 2020.
Ymgynghori cyn ymgeisio:rhoi gwybodaeth ar gael2
1
Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 20125 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Ar ôl erthygl 2F mewnosoder—
Coronafeirws: addasu’r Rhan hon dros dro2G
1
Mae’r Rhan hon yn gymwys gyda’r addasiadau a nodir yn yr erthygl hon pan fydd—
a
pob un o’r hysbysiadau y mae erthyglau 2C(1)(a) a 2D(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd eu rhoi mewn perthynas â chais arfaethedig yn cael eu rhoi ar ôl dechrau cyfnod yr argyfwng, a
b
o leiaf un o’r hysbysiadau hynny yn cael ei roi cyn diwedd cyfnod yr argyfwng.
2
Yn yr erthygl hon, ystyr “cyfnod yr argyfwng” yw’r cyfnod—
a
sy’n dechrau gyda 19 Mai 2020, a
b
sy’n dod i ben gyda 18 Medi 2020.
3
Mae erthygl 2C(1) yn cael effaith fel pe bai—
a
yn is-baragraff (b), “rhoi’r wybodaeth ganlynol ar gael ar wefan” wedi ei roi yn lle “rhoi’r wybodaeth ganlynol ar gael i’w harchwilio mewn lleoliad yng nghyffiniau’r datblygiad arfaethedig”;
b
y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (b)—
ac
c
anfon copïau caled o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b) at unrhyw berson sy’n gofyn amdanynt, pan ofynnir amdanynt o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-baragraff hwnnw.
4
Mae erthygl 2C yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (3)—
3A
Os gofynnwyd am gopïau caled o unrhyw ddogfennau fel y crybwyllir ym mharagraff (1)(c), ni chaniateir cyflwyno cais cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau gyda’r diwrnod yr anfonir y ddogfen olaf yn unol â’r paragraff hwnnw.
5
Mae erthygl 2C(5) yn cael effaith mewn perthynas â phob hysbysiad a roddir gan y ceisydd o dan erthygl 2C(1)(a) fel pe bai’r cyfeiriad at Atodlen 1B yn gyfeiriad at Atodlen 1D.
6
Mae erthygl 2D(5)(a) yn cael effaith mewn perthynas â phob hysbysiad a roddir gan y ceisydd o dan erthygl 2D(2) fel pe bai’r cyfeiriad at Atodlen 1B yn gyfeiriad at Atodlen 1D.
7
Mae erthygl 2F(2) yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (c)—
ca
datganiad bod yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (b) o erthygl 2C(1) wedi ei rhoi ar gael yn unol â’r is-baragraff hwnnw;
cb
datganiad yn nodi pa un a ofynnwyd am gopïau caled o unrhyw ddogfennau fel y crybwyllir yn is-baragraff (c) o erthygl 2C(1) ac, os felly, datganiad bod y copïau caled wedi eu hanfon yn unol â’r is-baragraff hwnnw;
3
Ar ôl Atodlen 1C mewnosoder Atodlen 1D a nodir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
Cyfnod i gynghorau cymuned wneud sylwadau ar geisiadau3
Yn erthygl 16 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
4
Pan fo cyngor cymuned yn cael ei hysbysu am gais yn ystod cyfnod yr argyfwng, mae paragraffau (1) a (2)(c) yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriadau at 14 o ddiwrnodau yn gyfeiriadau at 21 o ddiwrnodau.
5
Ym mharagraff (4), mae i “cyfnod yr argyfwng” yr ystyr a roddir gan erthygl 2G(2).
Datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: gwneud ceisiadau4
Yn erthygl 12 o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 20166, ar ôl paragraff (6) mewnosoder—
6A
Nid yw paragraffau (5) a (6) yn gymwys i gais a wneir yn ystod y cyfnod—
a
sy’n dechrau gyda 19 Mai 2020, a
b
sy’n dod i ben gyda 18 Medi 2020.
ATODLENHysbysiad cyn-ymgeisio ar gyfer cyfnod yr argyfwng
ATODLEN 1DCYHOEDDUSRWYDD AC YMGYNGHORI CYN GWNEUD CAIS AM GANIATÂD CYNLLUNIO: HYSBYSIAD I’W ROI YN YSTOD CYFNOD YR ARGYFWNG
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)