2020 Rhif 50 (Cy. 6)
Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 53(1) a (3) a 201(3) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 19831 (“Deddf 1983”), a pharagraffau 1(2), 1A a 13(1ZB) o Atodlen 2 iddi, ac adrannau 7(1) a (2) ac 11(3), (4) a (5) o Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 20132 (“Deddf 2013”) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol yn unol ag adran 53(5) o Ddeddf 19833, adran 7(1) a (2)(e) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 20004, ac maent wedi ymgynghori â’r Comisiynydd Gwybodaeth ac ag unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy yn unol ag adran 53(5) o Ddeddf 1983.
Yn unol ag adran 201(2) o Ddeddf 19835 ac adran 11(2) o Ddeddf 2013, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddo. Yn unol ag adran 8(6) o Ddeddf 2013, cyflwynwyd adroddiad gan y Comisiwn Etholiadol gyda’r offeryn drafft.