xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 (y “prif Reoliadau”).
Mae’r diwygiadau fel a ganlyn—
(a)diwygio rheoliad 3 o’r prif Reoliadau i ychwanegu cymesuredd y gofynion a’r cyfyngiadau fel ystyriaeth pan fydd Gweinidogion Cymru yn adolygu’r prif Reoliadau, ac i ddileu darpariaethau sy’n ymwneud â therfynu gofynion neu gyfyngiadau drwy gyfarwyddyd gweinidogol (sy’n golygu bod rhaid eu terfynu drwy ddiwygio’r prif Reoliadau);
(b)diwygio rheoliad 4 o’r prif Reoliadau, ac Atodlen 1 iddynt, i ganiatáu i lyfrgelloedd agor yn ddarostyngedig i ofynion i gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr gan bersonau yn y fangre a phersonau sy’n aros i fynd i’r fangre;
(c)diwygio rheoliad 8 o’r prif Reoliadau i wneud y canlynol—
(i)pennu bod gadael y man lle yr ydych yn byw i gasglu nwyddau a archebir o siop sy’n gweithredu ar sail “archebu a chasglu” yn esgus rhesymol at ddibenion rheoliad 8(1);
(ii)dileu’r cyfyngiad ym mharagraff (2)(b) ar beidio â gwneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd (fel y mae’n ymwneud ag ymarfer corff fel esgus rhesymol at ddibenion rheoliad 8(1));
(iii)pennu bod gwneud defnydd o gyfleuster ailgylchu neu waredu gwastraff neu ymweld â llyfrgell yn esgus rhesymol at ddibenion rheoliad 8(1) (sylwer, er hynny, nad yw’r newid hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyfleusterau hyn agor oherwydd mater i awdurdodau lleol yw hynny);
(d)ychwanegu canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion at Ran 4 o Atodlen 1 sy’n golygu y caniateir iddynt agor yn ddarostyngedig i ofynion i gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr gan bersonau yn y fangre a phersonau sy’n aros i fynd i’r fangre.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.