2020 Rhif 470 (Cy. 108)
Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o Gnydau) (Cymru) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan Erthyglau 69(1) a 70(4) o Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin1, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol, er mwyn datrys problemau sy’n deillio o lifogydd yng Nghymru, rhanddirymu’r darpariaethau yn y Rheoliad hwnnw ar gyfer blwyddyn hawlio 2020 mewn cysylltiad â’r gofynion o ran tyfu amrywiaeth o gnydau, a bod cyfiawnhad dros wneud hynny, ac mae rhychwant a chyfnod y rhanddirymiad hwnnw, ym marn Gweinidogion Cymru, yn hollol angenrheidiol.