Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 461 (Cy. 105)

Llywodraeth Leol, Cymru

Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020

Gwnaed

27 Ebrill 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Ebrill 2020

Yn dod i rym

5 Mai 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 67 a 68 o Ddeddf y Coronafeirws 2020(1).

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Mai 2020.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 5.5.2020, gweler rhl. 1(2)

DehongliLL+C

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y cyfnod blaenorol” (“the antecedent period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 16 Mawrth 2020 ac sy’n dod i ben ar y diwrnod cyn y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym;

ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 16 Mawrth 2020 ac sy’n dod i ben ar [F128 Chwefror 2021];

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(2);

ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(3);

ystyr “etholiad perthnasol” (“relevant election”) yw etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru;

ystyr “Rheolau 2006” (“the 2006 Rules”) yw Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006(4).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 5.5.2020, gweler rhl. 1(2)

Gohirio is-etholiadau cynghorwyr prif ardaloeddLL+C

3.—(1Mae’r bleidlais ar gyfer etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag ar gyfer unrhyw brif ardal yng Nghymru a fyddai, yn unol ag adran 89(1) o Ddeddf 1972 (llenwi swyddi sy’n digwydd dod yn wag yn achos cynghorwyr), fel arall yn cael ei chynnal, neu wedi cael ei chynnal, ar ddiwrnod yn ystod y cyfnod perthnasol i’w chynnal yn hytrach ar ddiwrnod sy’n dod o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar [F21 Mawrth 2021 ac sy’n dod i ben ar 6 Mai 2021].

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i bleidlais ar gyfer ethol cynghorydd sydd wedi ei chynnal yn ystod y cyfnod blaenorol, yn unol ag adran 89(1) o Ddeddf 1972.

(3Yn y rheoliad hwn, mae i “prif ardal” yr un ystyr ag a roddir i “principal area” yn adran 270 o Ddeddf 1972 (darpariaethau cyffredinol ynghylch dehongli).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 5.5.2020, gweler rhl. 1(2)

Gohirio is-etholiadau ar gyfer cynghorwyr cymunedLL+C

4.—(1Mae’r bleidlais ar gyfer etholiad i lenwi swydd cynghorydd cymuned sy’n digwydd dod yn wag a fyddai, yn unol â rheol 5(3) o Reolau 2006 (llenwi swyddi sy’n digwydd dod yn wag), fel arall yn cael ei chynnal, neu wedi cael ei chynnal, ar ddiwrnod yn ystod y cyfnod perthnasol i’w chynnal yn hytrach ar ddiwrnod sy’n dod o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar [F31 Mawrth 2021 ac sy’n dod i ben ar 6 Mai 2021].

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i bleidlais ar gyfer ethol cynghorydd sydd wedi ei chynnal ar ddiwrnod yn ystod y cyfnod blaenorol, yn unol â rheol 5(3) o Reolau 2006.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 5.5.2020, gweler rhl. 1(2)

Datgymhwyso darpariaethau penodol sy’n ymwneud ag etholiadauLL+C

5.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â’r bleidlais ar gyfer etholiad perthnasol—

(a)os yw’n ofynnol i’r bleidlais gael ei chynnal ar ddiwrnod sydd o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar 25 Ebrill 2020 ac sy’n dod i ben ar [F428 Chwefror 2021], ond

(b)yn unol â’r Rheoliadau hyn, nad yw’r bleidlais yn cael ei chynnal yn ystod y cyfnod hwnnw.

(2Nid yw adran 39 o Ddeddf 1983 (etholiadau lleol di-rym etc.) yn gymwys, a chaiff ei thrin fel pe na bai erioed wedi bod yn gymwys, mewn perthynas â’r bleidlais.

(3Nid yw adran 63 o Ddeddf 1983 (torri dyletswydd swyddogol) yn gymwys, a chaiff ei thrin fel pe na bai erioed wedi bod yn gymwys, mewn perthynas ag unrhyw weithred neu anweithred mewn cysylltiad â’r bleidlais.

(4Wrth benderfynu at ddiben y rheoliad hwn a yw pleidlais wedi cael ei chynnal, mae pleidleisiau drwy’r post i’w hanwybyddu.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 5.5.2020, gweler rhl. 1(2)

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

27 Ebrill 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gohirio is-etholiadau penodol a oedd i fod i gael eu cynnal yn ystod y cyfnod rhwng 16 Mawrth 2020 a 31 Ionawr 2021.

Mae rheoliad 3 yn gohirio is-etholiadau a fyddai’n cael eu cynnal i lenwi swyddi cynghorwyr yn unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru tan ddiwrnod sy’n dod o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Chwefror 2021 ac sy’n dod i ben ar 16 Ebrill 2021.

Mae rheoliad 4 yn gohirio is-etholiadau a fyddai’n cael eu cynnal i lenwi swyddi cynghorwyr cymuned yn unrhyw gyngor cymuned yng Nghymru tan ddiwrnod sy’n dod o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Chwefror 2021 ac sy’n dod i ben ar 16 Ebrill 2021.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhau swyddogion canlyniadau ac eraill o atebolrwydd o dan ddarpariaethau penodol yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 mewn perthynas â phleidleisiau yr oedd yn ofynnol iddynt gael eu cynnal ond na chawsant eu cynnal yn y cyfnod ar ôl 24 Ebrill 2020.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.