Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Mai 2020.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y cyfnod blaenorol” (“the antecedent period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 16 Mawrth 2020 ac sy’n dod i ben ar y diwrnod cyn y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym;
ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 16 Mawrth 2020 ac sy’n dod i ben ar F128 Chwefror 2021;
ystyr “etholiad perthnasol” (“relevant election”) yw etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru;
Gohirio is-etholiadau cynghorwyr prif ardaloedd3.
(1)
Mae’r bleidlais ar gyfer etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag ar gyfer unrhyw brif ardal yng Nghymru a fyddai, yn unol ag adran 89(1) o Ddeddf 1972 (llenwi swyddi sy’n digwydd dod yn wag yn achos cynghorwyr), fel arall yn cael ei chynnal, neu wedi cael ei chynnal, ar ddiwrnod yn ystod y cyfnod perthnasol i’w chynnal yn hytrach ar ddiwrnod sy’n dod o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar F21 Mawrth 2021 ac sy’n dod i ben ar 6 Mai 2021.
(2)
Nid yw paragraff (1) yn gymwys i bleidlais ar gyfer ethol cynghorydd sydd wedi ei chynnal yn ystod y cyfnod blaenorol, yn unol ag adran 89(1) o Ddeddf 1972.
(3)
Yn y rheoliad hwn, mae i “prif ardal” yr un ystyr ag a roddir i “principal area” yn adran 270 o Ddeddf 1972 (darpariaethau cyffredinol ynghylch dehongli).
Gohirio is-etholiadau ar gyfer cynghorwyr cymuned4.
(1)
Mae’r bleidlais ar gyfer etholiad i lenwi swydd cynghorydd cymuned sy’n digwydd dod yn wag a fyddai, yn unol â rheol 5(3) o Reolau 2006 (llenwi swyddi sy’n digwydd dod yn wag), fel arall yn cael ei chynnal, neu wedi cael ei chynnal, ar ddiwrnod yn ystod y cyfnod perthnasol i’w chynnal yn hytrach ar ddiwrnod sy’n dod o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar F31 Mawrth 2021 ac sy’n dod i ben ar 6 Mai 2021.
(2)
Nid yw paragraff (1) yn gymwys i bleidlais ar gyfer ethol cynghorydd sydd wedi ei chynnal ar ddiwrnod yn ystod y cyfnod blaenorol, yn unol â rheol 5(3) o Reolau 2006.
Datgymhwyso darpariaethau penodol sy’n ymwneud ag etholiadau5.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â’r bleidlais ar gyfer etholiad perthnasol—
(a)
os yw’n ofynnol i’r bleidlais gael ei chynnal ar ddiwrnod sydd o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar 25 Ebrill 2020 ac sy’n dod i ben ar F428 Chwefror 2021, ond
(b)
yn unol â’r Rheoliadau hyn, nad yw’r bleidlais yn cael ei chynnal yn ystod y cyfnod hwnnw.
(2)
Nid yw adran 39 o Ddeddf 1983 (etholiadau lleol di-rym etc.) yn gymwys, a chaiff ei thrin fel pe na bai erioed wedi bod yn gymwys, mewn perthynas â’r bleidlais.
(3)
Nid yw adran 63 o Ddeddf 1983 (torri dyletswydd swyddogol) yn gymwys, a chaiff ei thrin fel pe na bai erioed wedi bod yn gymwys, mewn perthynas ag unrhyw weithred neu anweithred mewn cysylltiad â’r bleidlais.
(4)
Wrth benderfynu at ddiben y rheoliad hwn a yw pleidlais wedi cael ei chynnal, mae pleidleisiau drwy’r post i’w hanwybyddu.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gohirio is-etholiadau penodol a oedd i fod i gael eu cynnal yn ystod y cyfnod rhwng 16 Mawrth 2020 a 31 Ionawr 2021.
Mae rheoliad 3 yn gohirio is-etholiadau a fyddai’n cael eu cynnal i lenwi swyddi cynghorwyr yn unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru tan ddiwrnod sy’n dod o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Chwefror 2021 ac sy’n dod i ben ar 16 Ebrill 2021.
Mae rheoliad 4 yn gohirio is-etholiadau a fyddai’n cael eu cynnal i lenwi swyddi cynghorwyr cymuned yn unrhyw gyngor cymuned yng Nghymru tan ddiwrnod sy’n dod o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Chwefror 2021 ac sy’n dod i ben ar 16 Ebrill 2021.
Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhau swyddogion canlyniadau ac eraill o atebolrwydd o dan ddarpariaethau penodol yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 mewn perthynas â phleidleisiau yr oedd yn ofynnol iddynt gael eu cynnal ond na chawsant eu cynnal yn y cyfnod ar ôl 24 Ebrill 2020.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.