NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 (y “prif Reoliadau”).

Mae rheoliad 2 yn rhoi yn lle paragraff (4) o reoliad 3 o’r prif Reoliadau ddarpariaeth fwy hyblyg sy’n galluogi i ofyniad neu gyfyngiad a osodir gan y prif Reoliadau gael ei derfynu mewn perthynas â busnesau neu wasanaethau penodol (neu ddisgrifiadau o fusnesau neu wasanaethau), categorïau penodol o bersonau neu ardaloedd penodol o Gymru. Mae paragraff newydd (4A) hefyd wedi ei fewnosod yn rheoliad 3 o’r prif Reoliadau er mwyn ei gwneud yn glir nad yw terfynu gofyniad neu gyfyngiad yn effeithio ar bethau sy’n digwydd cyn i’r terfynu gymryd effaith.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliadau 4, 5, 6 a 6A o’r prif Reoliadau er mwyn ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n gyfrifol am fusnesau neu wasanaethau a gynhelir mewn mangreoedd o’r mathau a restrir isod gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre (oni bai bod y personau yn aelodau o’r un aelwyd neu’n ofalwr a’r person y gofelir amdano), sicrhau bod nifer y personau y caniateir iddynt fynd i’r fangre wedi ei gyfyngu er mwyn galluogi i’r mesurau hynny gael effaith, a sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre. Y mangreoedd yw—

(a)mangreoedd a ddefnyddir fel caffis neu ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol, carchar neu sefydliad milwrol neu a ddefnyddir i ddarparu bwyd a diod i bersonau digartref;

(b)mangreoedd sydd, er ei bod yn ofynnol yn gyffredinol iddynt fod ar gau o dan reoliad 4(4) o’r prif Reoliadau, ar agor at ddibenion darlledu, neu ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol, neu i ddarparu gwasanaethau ar lein, dros y ffôn neu drwy’r post;

(c)llety gwyliau y caniateir iddo aros ar agor i ddarparu llety i bersonau penodol, neu at ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano, neu i ddarparu gwasanaethau ar lein, dros y ffôn neu drwy’r post;

(d)unrhyw ran o siop y byddai fel arall yn ofynnol iddi gau o dan reoliad 6(2) o’r prif Reoliadau ond y caniateir iddi aros ar agor i ymateb i archebion ac ymholiadau a geir ar lein, dros y ffôn neu drwy’r post (er enghraifft i ddarparu cyfleusterau i godi archebion a osodir ar lein, a elwir fel arfer yn wasanaeth “clicio a chasglu”).

Mae rheoliad 4 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i reoliad 8 o’r prif Reoliadau sy’n ymwneud â’r gofyniad nad yw person yn gadael y man lle y mae’n byw heb esgus rhesymol, gan gynnwys—

(a)diwygio paragraff (1) i egluro bod y cyfyngiad ar adael y man lle y mae person yn byw heb esgus rhesymol hefyd yn cynnwys aros i ffwrdd o’r man hwnnw heb esgus rhesymol;

(b)egluro’r drafftio ym mharagraff (2)(a) er mwyn dileu tawtoleg cael “angen i gael angenrheidiau sylfaenol” a’i gwneud yn glir y gall personau fynd i fanciau a sefydliadau tebyg i dynnu arian a’i adneuo;

(c)yn ei gwneud yn glir fod gwneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd yn esgus rhesymol os oes ei angen oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd penodol;

(d)pennu bod ymweld â chladdfa neu ardd goffa i dalu teyrnged yn esgus rhesymol.

Mae rheoliad 5 yn gwneud diwygiadau i reoliad 10 o’r prif Reoliadau i egluro cymhwysiad y darpariaethau gorfodi.

Mae rheoliad 6 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol pellach i’r prif Reoliadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.