Busnesau llety gwyliau sy’n darparu gwasanaethau ar-lein etc.LL+C
2. Yn rheoliad 5 o’r prif Reoliadau, yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i unrhyw fusnes arall a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes yn gymwys yn ddarostyngedig i’r angen i ddarparu llety i unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac—
(a)na allant ddychwelyd i’w prif breswylfa, neu
(b)sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa.
(3A) I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i fusnes a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes yn gymwys yn ddarostyngedig i’r angen—
(a)i gynnal y busnes, neu i gadw unrhyw fangre a ddefnyddir yn y busnes ar agor, at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano;
(b)i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—
(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar-lein,
(ii)dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu
(iii)drwy’r post.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 2 mewn grym ar 7.4.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(1)