Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2020
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2020.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2020.
Diwygiadau i Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 20012.
(a)
yn lle “cyfnod o saith mlynedd” rhodder “y cyfnod”, a
(b)
yn lle “2023” rhodder “2024”.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 20063.
(a)
yn lle “cyfnod o saith mlynedd” rhodder “y cyfnod”, a
(b)
yn lle “2023” rhodder “2024”.
Diwygiadau i Reoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 20064.
(a)
yn lle “cyfnod o saith mlynedd” rhodder “y cyfnod”, a
(b)
yn lle “2023” rhodder “2024”.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 20155.
(a)
yn lle “cyfnod o saith mlynedd” rhodder “y cyfnod”, a
(b)
yn lle “2023” rhodder “2024”.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau a ganlyn (“y Rheoliadau Arolygu”)—
Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001,
Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006,
Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006, a
Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015.
Ar hyn o bryd, mae’r Rheoliadau Arolygu yn ei gwneud yn ofynnol i Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales gynnal arolygiad o leiaf unwaith o fewn y cyfnod o 7 mlynedd sy’n dechrau ar 1 Medi 2016 ac sy’n dod i ben ar 31 Awst 2023 (“y Cyfnod Arolygu Cyntaf”) ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod arolygu o 6 mlynedd wedi hynny.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Cyfnod Arolygu Cyntaf ym mhob un o’r Rheoliadau Arolygu fel y bydd yn dod i ben ar 31 Awst 2024 yn lle 31 Awst 2023. Bydd pob arolygiad wedi hynny yn parhau i gael ei gynnal unwaith ym mhob cyfnod arolygu o 6 mlynedd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.