Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 37 (Cy. 4)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2020

Gwnaed

16th Ionawr 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

20th Ionawr 2020

Yn dod i rym

1st Medi 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 122(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1), a pharagraff 6B(1)(a) o Atodlen 26 iddi, a thrwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 77(2) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(2), a chan adrannau 28(1)(3), 50(4)(4), 55(4)(5) ac 56(3)(6) o Ddeddf Addysg 2005(7), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2020.

Diwygiadau i Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001

2.  Yn rheoliad 2(1)(b) o Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001(8)

(a)yn lle “cyfnod o saith mlynedd” rhodder “y cyfnod”, a

(b)yn lle “2023” rhodder “2024”.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006

3.  Yn rheoliadau 6(1)(b) a 14(b) o Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006(9)

(a)yn lle “cyfnod o saith mlynedd” rhodder “y cyfnod”, a

(b)yn lle “2023” rhodder “2024”.

Diwygiadau i Reoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006

4.  Yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006(10)

(a)yn lle “cyfnod o saith mlynedd” rhodder “y cyfnod”, a

(b)yn lle “2023” rhodder “2024”.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015

5.  Yn rheoliad 4(1)(b) o Reoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015(11)

(a)yn lle “cyfnod o saith mlynedd” rhodder “y cyfnod”, a

(b)yn lle “2023” rhodder “2024”.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

16th Ionawr 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau a ganlyn (“y Rheoliadau Arolygu”)—

(a)Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001,

(b)Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006,

(c)Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006, a

(d)Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015.

Ar hyn o bryd, mae’r Rheoliadau Arolygu yn ei gwneud yn ofynnol i Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales gynnal arolygiad o leiaf unwaith o fewn y cyfnod o 7 mlynedd sy’n dechrau ar 1 Medi 2016 ac sy’n dod i ben ar 31 Awst 2023 (“y Cyfnod Arolygu Cyntaf”) ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod arolygu o 6 mlynedd wedi hynny.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Cyfnod Arolygu Cyntaf ym mhob un o’r Rheoliadau Arolygu fel y bydd yn dod i ben ar 31 Awst 2024 yn lle 31 Awst 2023. Bydd pob arolygiad wedi hynny yn parhau i gael ei gynnal unwaith ym mhob cyfnod arolygu o 6 mlynedd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1998 p. 31; gweler adran 142(1) am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 6B(1)(a) o Atodlen 26, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac mae’n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(2)

2000 p. 21; gweler adran 77(9) am y diffiniad o “prescribed” ac adran 74(1) am y diffiniad o “the National Assembly”. Trosglwyddwyd swyddogaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn adran 77(2), i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

2005 p. 18; gweler adran 31(1) am y diffiniad o “prescribed” a “regulations” ac adran 122(1) am y diffiniad o “the Assembly”.

(4)

Gweler adran 50(8) am y diffiniad o “prescribed” ac adran 122(1) am y diffiniad o “the Assembly”.

(5)

Gweler adran 55(8) am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations” ac adran 122(1) am y diffiniad o “the Assembly”.

(6)

Gweler adran 55(8) am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations” ac adran 122(1) am y diffiniad o “the Assembly”.

(7)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 28, 50, 55 ac 56, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources