2020 Rhif 37 (Cy. 4)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2020
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 122(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19981, a pharagraff 6B(1)(a) o Atodlen 26 iddi, a thrwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 77(2) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 20002, a chan adrannau 28(1)3, 50(4)4, 55(4)5 ac 56(3)6 o Ddeddf Addysg 20057, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: