2020 Rhif 367 (Cy. 82)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2020

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 59, 60(1), 61(1) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2020 a daw i rym ar 30 Mawrth 2020.

2

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 19952

1

Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 19953 wedi ei diwygio fel y nodir ym mharagraff (2).

2

Ar ôl Rhan 12 (Datblygu gan Awdurdodau Lleol) mewnosoder—

Part 12AEmergency Development by Local Authorities

Class A

A. Permitted development

Development by a local authority on land owned, leased, occupied or maintained by it for the purposes of—

a

preventing an emergency;

b

reducing, controlling or mitigating the effects of an emergency; or

c

taking other action in connection with an emergency.

A.1 Conditions

Development is permitted by Class A subject to the following conditions—

a

if the developer is not also the local planning authority, the developer must, as soon as reasonably practicable notify the local planning authority of that development; and

b

on or before the expiry of the period of twelve months beginning with the date on which the development began—

i

any use of that land for a purpose of Class A must cease and any buildings, plant, machinery, structures and erections permitted by Class A must be removed; and

ii

the land must be restored to its condition before the development took place, or to such other state as may be agreed in writing between the local planning authority and the developer.

A.2 Interpretation of Class A

1

For the purposes of Class A, “emergency” means an event or situation which threatens serious damage to human welfare in a place in the United Kingdom.

2

For the purposes of paragraph (1), an event or situation threatens damage to human welfare only if it involves, causes or may cause—

a

loss of human life;

b

human illness or injury;

c

homelessness;

d

damage to property;

e

disruption of a supply of money, food, water, energy or fuel;

f

disruption of a system of communication;

g

disruption of facilities for transport; or

h

disruption of services relating to health.

Julie JamesY Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (“y GDCG”).

Mae erthygl 3 o’r GDCG, ac Atodlen 2 iddo, yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir mewn cysylltiad â datblygu penodol. Pan roddir yr hawliau hynny, nid yw cais am ganiatâd cynllunio yn ofynnol.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 2 i’r GDCG drwy fewnosod Rhan 12A newydd (Datblygu Brys gan Awdurdodau Lleol) i ganiatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru wneud gwaith datblygu penodol mewn argyfwng yn unol â’r Rhan honno. At y dibenion hyn, ystyr argyfwng yw digwyddiad neu sefyllfa sy’n bygwth gwneud niwed difrifol i les pobl mewn lle yn y Deyrnas Unedig.

Y datblygu a ganiateir yw datblygu at ddibenion—

a

atal argyfwng,

b

lleihau, rheoli neu liniaru effeithiau argyfwng, neu

c

cymryd camau eraill mewn cysylltiad ag argyfwng.

Mae’r datblygu a ganiateir yn ddarostyngedig i amodau sydd hefyd wedi eu nodi yn y Rhan 12A newydd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Mae copïau ar gael oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru