Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Meddwl, Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
26 Mawrth 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 87(4) o Ddeddf y Coronafeirws 2020(1).
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr amod a bennir yn adran 87(5) o’r Ddeddf honno, wedi ei fodloni mewn perthynas â’r darpariaethau sydd wedi eu cychwyn gan y Rheoliadau hyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2020.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf y Coronafeirws 2020.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym am 9 a.m. ar 27 Mawrth 2020—
(a)adran 10 (addasu dros dro ddeddfwriaeth iechyd meddwl a galluedd meddyliol);
(b)Rhan 1 o Atodlen 8 (darpariaeth ragarweiniol);
(c)paragraffau 11, 12 a 13 o Atodlen 8 (cyfansoddiad a thrafodion Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru).
3. Daw adran 15 (gofal a chymorth gan awdurdodau lleol) o’r Ddeddf, a Rhan 2 o Atodlen 12 (pwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol yng Nghymru) iddi i rym ar 1 Ebrill 2020.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2020
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ddeddf y Coronafeirws 2020 (“y Ddeddf”).
Mae rheoliad 2 yn dwyn i rym am 9 a.m. ar 27 Mawrth 2020 adran 10 o’r Ddeddf, a Rhan 1 a pharagraffau 11, 12 a 13 o Atodlen 8 iddi, fel nad yw’n ofynnol i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru gydymffurfio â gofynion penodol o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Mae Rhan 1 o Atodlen 8 yn cynnwys darpariaeth ragarweiniol ac mae paragraffau 11 a 12 yn dileu’r gofyniad bod rhaid cael o leiaf dri aelod er mwyn cyfansoddi tribiwnlys ac yn darparu y caniateir i achosion gael eu penderfynu heb wrandawiad, o dan amgylchiadau penodedig. Mae paragraff 13 yn darparu y caiff Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru enwebu aelod cyfreithiol arall i weithredu fel dirprwy os nad yw Llywydd y Tribiwnlys ar gael am gyfnod dros dro.
Mae rheoliad 3 yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2020 adran 15 o’r Ddeddf, a Rhan 2 o Atodlen 12 iddi, fel nad oes rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru gydymffurfio â dyletswyddau penodol mewn perthynas â diwallu anghenion, a chynnal asesiadau, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”), ac i addasu dyletswyddau i ddiwallu anghenion o dan Ddeddf 2014, hyd nes bod rheoliadau mewn grym o dan adran 88 o’r Ddeddf (pŵer i atal dros dro ac adfer darpariaethau’r Ddeddf), neu nad yw’r Ddeddf mewn grym mwyach.