2020 Rhif 366 (Cy. 81) (C. 19)
Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2020
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 87(4) o Ddeddf y Coronafeirws 20201.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr amod a bennir yn adran 87(5) o’r Ddeddf honno, wedi ei fodloni mewn perthynas â’r darpariaethau sydd wedi eu cychwyn gan y Rheoliadau hyn.
Enwi, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2020.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf y Coronafeirws 2020.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 27 Mawrth 20202
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym am 9 a.m. ar 27 Mawrth 2020—
a
adran 10 (addasu dros dro ddeddfwriaeth iechyd meddwl a galluedd meddyliol);
b
Rhan 1 o Atodlen 8 (darpariaeth ragarweiniol);
c
paragraffau 11, 12 a 13 o Atodlen 8 (cyfansoddiad a thrafodion Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru).
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 20203
Daw adran 15 (gofal a chymorth gan awdurdodau lleol) o’r Ddeddf, a Rhan 2 o Atodlen 12 (pwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol yng Nghymru) iddi i rym ar 1 Ebrill 2020.
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)