RHAN 4Yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol
Iawndal a adenillir yn sgil colli enillion27
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i weithiwr amaethyddol y mae ei hawl i gael tâl salwch amaethyddol yn codi oherwydd gweithred neu anweithred person heblaw ei gyflogwr ac mae’r iawndal yn cael ei adennill gan y gweithiwr amaethyddol mewn cysylltiad â cholled enillion a ddioddefir yn ystod y cyfnod y cafodd y gweithiwr amaethyddol dâl salwch amaethyddol gan ei gyflogwr ar ei gyfer.
2
Pan fo paragraff (1) yn gymwys—
a
rhaid i’r gweithiwr amaethyddol roi gwybod ar unwaith i’w gyflogwr am yr holl amgylchiadau perthnasol ac am unrhyw hawliad ac am unrhyw iawndal a adenillwyd o dan unrhyw gyfaddawd, setliad neu ddyfarniad;
b
rhaid i’r holl dâl salwch amaethyddol a dalwyd gan y cyflogwr i’r gweithiwr amaethyddol hwnnw mewn cysylltiad â’r absenoldeb salwch yr adenillir iawndal am golli enillion ar ei gyfer fod yn gyfystyr â benthyciad i’r gweithiwr; ac
c
rhaid i’r gweithiwr amaethyddol ad-dalu i’w gyflogwr swm nad yw’n fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
i
swm yr iawndal a adenillwyd am golli enillion yn y cyfnod y talwyd tâl salwch amaethyddol ar ei gyfer; a
ii
y symiau a roddwyd i’r gweithiwr amaethyddol gan ei gyflogwr o dan y Rhan hon ar ffurf tâl salwch amaethyddol.