RHAN 4Yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol
Cyfyngiadau ar yr hawl i dâl salwch amaethyddol21.
(1)
Ni fydd tâl salwch amaethyddol yn daladwy am y 3 diwrnod cyntaf o absenoldeb salwch o dan amgylchiadau pan fo hyd yr absenoldeb salwch yn llai na 14 o ddiwrnodau.
(2)
Yn ystod pob cyfnod hawl, uchafswm nifer yr wythnosau y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol ar eu cyfer yw—
(a)
13 o wythnosau yn ail flwyddyn y gyflogaeth;
(b)
16 o wythnosau yn nhrydedd flwyddyn y gyflogaeth;
(c)
19 o wythnosau ym mhedwaredd flwyddyn y gyflogaeth;
(d)
22 o wythnosau ym mhumed flwyddyn y gyflogaeth;
(e)
26 o wythnosau yn chweched flwyddyn a phob blwyddyn olynol y gyflogaeth.
(3)
Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu unrhyw oramser gwarantedig, pan fo hynny’n berthnasol, ar nifer penodedig o ddiwrnodau bob wythnos, cyfrifir uchafswm nifer y diwrnodau o dâl salwch amaethyddol y mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w cael drwy luosi uchafswm nifer yr wythnosau sy’n berthnasol i’r gweithiwr amaethyddol â nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos.
(4)
Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu unrhyw oramser gwarantedig, pan fo hynny’n berthnasol, ar nifer amrywiol o ddiwrnodau bob wythnos, cyfrifir uchafswm nifer y diwrnodau o dâl salwch amaethyddol y mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w cael drwy luosi uchafswm nifer yr wythnosau sy’n berthnasol i’r gweithiwr hwnnw â nifer y diwrnodau perthnasol.
(5)
Cyfrifir nifer y diwrnodau perthnasol drwy rannu nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd yn ystod y cyfnod o 12 mis yn arwain at gyfnod yr absenoldeb salwch â 52.
(6)
Mae uchafswm hawl gweithiwr amaethyddol i gael tâl salwch amaethyddol yn gymwys pa faint bynnag o gyfnodau o absenoldeb salwch a geir yn ystod unrhyw gyfnod hawl.
(7)
Yn ddarostyngedig i baragraff (8), yn yr erthygl hon, “cyfnod hawl” yw cyfnod sy’n dechrau â chychwyn absenoldeb salwch ac sy’n dod i ben 12 mis yn ddiweddarach.
(8)
Os yw’r gweithiwr amaethyddol yn cael cyfnod o absenoldeb salwch sy’n cychwyn unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hawl a ddisgrifir ym mharagraff (7), ond sy’n parhau y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod hawl hwnnw, rhaid estyn y cyfnod hawl fel y bo’n dod i ben â pha un bynnag o’r canlynol sy’n digwydd gyntaf—
(a)
y dyddiad y mae absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol yn dod i ben ac y mae’r gweithiwr amaethyddol yn dychwelyd i’r gwaith; neu
(b)
y diwrnod y mae’r gweithiwr amaethyddol yn cyrraedd uchafswm yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol sy’n gymwys i’r cyfnod o 12 mis y cyfeirir ato ym mharagraff (7) (pe na bai hwnnw wedi ei estyn).