2020 Rhif 328 (Cy. 75)
Gorchymyn y Cod Ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2020
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141 (“Deddf 2014”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru, fel sy’n ofynnol gan adran 146(1) o Ddeddf 2014, wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn meddwl eu bod yn briodol ynghylch drafft o’r Cod Ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Yn unol ag adran 146(2) o Ddeddf 2014, gosodwyd drafft o’r Cod Ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Chwefror 2020.
Yn unol ag adran 146(3) o Ddeddf 2014, o fewn cyfnod o 40 niwrnod ni phenderfynodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â chymeradwyo’r Cod Ymarfer drafft mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, a dyroddwyd y cod ar ffurf y drafft.